Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Llawysgrifau Cerddoriaeth


Antiffonal Penpont
Antiffonal Penpont

Dyma enghreifftiau o’r trysorau llawysgrif sydd gennym:

 

  • llawysgrif gynnar sy’n cofnodi Gwasanaeth Gŵyl Ddewi yn Antiffonal Penpont

  • papurau Maria Jane Williams yr arloesydd cofnodi caneuon gwerin

  • casgliad papurau John Lloyd Williams sy’n fwynglawdd o ganeuon gwerin. Mae hefyd yn cynnwys llawysgrif John Thomas y ffidlwr sy’n ffynhonnell brin o gerddoriaeth gwerin Cymru yn y 18fed ganrif

  • papurau a chyfansoddiadau John Thomas (Pencerdd Gwalia) a fu’n delynor i’r Frenhines Victoria. Ef a fu’n bennaf gyfrifol am droi sylw’r Cymry oddi wrth y delyn deires at y delyn bedal a’i throi yn eicon cenedlaethol

  • casgliad o lawysgrifau cerddorion enwog e.e. hunangofiant Joseph Parry Ceir yma hefyd lawysgrifau cerddorion fel Daniel Jones, William Mathias, Grace Williams a David Lloyd y canwr

  • papurau sefydliadau cenedlaethol fel Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru

  • llawysgrif 'Hen Wlad Fy Nhadau'. Gwrandewch ar y recordiad cynharaf (11 Mawrth 1899):


Listen to the file (mp3-77 sec-1.87Mb)

 

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 14-03-2007