Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Rhai o brif elynion y llyfr yw nifer amrywiol o bryfed a chreaduriaid bychain eraill. Os na ymdrechir i reoli plâu o’r fath, gall y difrod fod yn eang i’ch casgliadau gwerthfawr. Glendid yw’r prif arf yn y frwydr hon, ac mae’r sugnydd llwch yn declyn da iawn i gael gwared â phryfed, wyau a baw.
Y pryfed sy’n achosi’r difrod mwyaf i lyfrau yw’r pryfed arian (silverfish), llau llyfrau, gwyfyn y tŷ ac amrywiol chwilod. Maent wrth eu boddau’n gwledda ar bapur, y starts sydd mewn past a’r gelatin sydd mewn glud.

Os yw'r amgylchedd yn rhy laith ac yn rhy gynnes, gall llwydni ymddangos gan ddifrodi, staenio a gwanhau llyfrau a gwrthrychau eraill. Rhaid gochel rhag anadlu sborau gan eu bod yn medru achosi bob math o alergedd ac afiechydon gwaeth.
Os daw llyfr neu wrthrych wedi llwydo i’ch meddiant, dylech ei frwsio’n lân yn yr awyr agored. Os yw’r llyfr yn parhau’n llaith, dylid ei sychu drwy ei osod i sefyll am gyfnod gyda’r tudalennau ar agor. Wedi gwneud hyn, ac o gadw’r llyfr dan yr amodau amgylcheddol cywir, ni ddylai’r llwydni ailymddangos
Mae plâu fel pryfed a llwydni yn ffynnu mewn awyrgylch llaith a chynnes, ac felly, gellir eu cadw draw o’ch casgliadau drwy sicrhau tymheredd o 15-18ºC a lleithder awyr (Rh) o 45-50%.