Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Visit Us

Ymweld a Ni

Teithiau Tywys LlGC


Taith o gwmpas y Llyfrgell

Cynigir teithiau tywys rhad ac am ddim o gwmpas Llyfrgell Genedlaethol Cymru bob:

 

  • Dydd Llun am 11:00
  • Dydd Mercher am 14:15

 

Gall grwpiau hefyd drefnu i gael teithiau tywys ar adegau eraill trwy lenwi'r ffurflen archebu teithiau.

 

Gellir gweld unrhyw newidiadau i'r dyddiau neu amserau teithiau ar wefan y Llyfrgell, yn y wasg leol ac ar bosteri yn yr adeilad.

 

 

Sut i ymuno â thaith

 

Bydd teithiau yn dechrau o Siop y Llyfrgell ar y llawr gwaelod (Lefel -1), y drws nesaf i'r dderbynfa.

 

Er bod y teithiau yn rhad ac am ddim bydd angen i chi sicrhau tocyn ymlaen llaw. Gallwch wneud hyn:

 

  • ar ein tudalen Digwyddiadau
  • drwy ymweld â Siop y Llyfrgell
  • drwy ffonio 01970 632 548

 

Mae'r teithiau yn para am oddeutu awr a hanner ac yn rhoi cyflwyniad i:   

 

  • hanes y Llyfrgell
  • ei chasgliadau
  • yr adeilad

 

Caiff y teithiau agored eu cynnal yn Saesneg fel arfer gan dywyswyr dwyieithog (Cymraeg / Saesneg). Gallwn gynnig teithiau trwy'r Gymraeg i grwpiau sydd yn trefnu ymlaen llaw.

 

 

Hygyrchedd

 

Mae'r holl ardaloedd y byddwch yn ymweld â nhw yn ystod y daith yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn. Gallwch ddefnyddio'r lifft i gyrraedd 3 llawr y Llyfrgell. Bydd peth cerdded o gwmpas yr adeilad a sefyll yn ystod y daith.

 

Rhowch wybod i ni, os gwelwch yn dda, os oes gennych unrhyw ofynion penodol a allai effeithio ar eich mwynhad.

 

Ni chaniateir i chi ddod â bagiau, gan gynnwys bagiau llaw, na chotiau ar y  daith. Gadewch eich bagiau a'ch cotiau yn y loceri ar y llawr gwaelod (Lefel -1) neu'r llawr cyntaf (Lefel 0) os gwelwch yn dda. Byddwch angen darn £1 fel blaendal i ddefnyddio'r loceri.

 

 

Gwasanaethau

 

Gan mai dim ond cyflwyniad i'r Llyfrgell y gall y daith ei roi, mae croeso i chi ymweld ï'r arddangosfeydd, Siop y Llyfrgell a Bwyty Pen Dinas wedi'r daith yn eich amser eich hun.

 

Gallwch hefyd fanteisio ar y cyfle i wneud cais am Docyn Darllen a fydd yn rhoi mynediad uniongyrchol i'n holl gasgliadau yn yr Ystafelloedd Darllen.

 

Mae unigolion yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain yn ystod taith dywys.

 

 

Parcio

 

O 1 Mehefin 2009 codir ffi fechan ar ymwelwyr a darllenwyr am barcio yn y Llyfrgell Genedlaethol (Dydd Llun - Dydd Gwener yn unig).

 

Cerbyd Pris (Llun - Gwener) Pris (Sadwrn)
Ceir/beiciau modur £1 (hyd at 4 awr) Am ddim
  £2 (dros 4 awr - ddiwrnod llawn (18:15)) Am ddim
Cerbydau tywys/carafannau £2.50 (hyd at 4 awr) Am ddim
  £5.00 (dros 4 awr - ddiwrnod llawn (18:15)) Am ddim
Bws/bysiau mini Am ddim. Rhaid rhoi gwybod o flaen llaw a defnyddio'’r bylchau penodedig. Cysylltwch â'r Porthorion i drefnu hyn 01970 632 848 neu prifporthor@llgc.org.uk Am ddim

 

Mae’r ffioedd yma’n cynnwys parcio yn unai’r blychau gwyn neu goch.

 

Eithrir gyrwyr sy’n arddangos bathodyn anabl cywir rhag talu.

 

Gellir defnyddio derbynebau parcio ar gyfer talu am un pryniant yn y Llyfrgell, yn y Cafe, Siop neu wasanaethau ffotogopïo ar yr un dydd yn unig. Ni ad-delir arian yn erbyn derbynebau parcio.

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 28-09-2010