Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Visit Us

Ymweld a Ni

Ystafell Ddarllen y Gogledd


Defnyddir Ystafell Ddarllen y Gogledd ar gyfer darllen llyfrau a chylchgronau a chopïau gwreiddiol o bapurau newydd. Mae mynediad i Ystafell Ddarllen y Gogledd a chasgliadau’r Llyfrgell yn ddibynnol ar docyn darllen dilys.

Mae Ystafell Ddarllen y Gogledd yn cynnig:

 

■ Gwasanaeth y we di-wifr (wi-fi) am ddim

■ Gwagle ychwanegol ar gyfer defnydd gliniaduron gan gynnwys cyflenwad trydan

■ Ardaloedd ar gyfer astudio mewn grwp neu fel unigolyn

■ Ardal ddarllen gysurus ar gyfer darllenwyr

■ Gwell darpariaeth golau a gwres

■ Adnoddau ar gyfer mynediad i ddeunydd aml-gyfrwng

■ Ardal arbennig ar gyfer darllen llyfrau prin

 

Am wybodaeth bellach ymwelwch â'n tudalen gwasanaeth Wi-Fi.

Casgliad cyfeiriol y Silffoedd Agored

 

Cylchgronau Cymreig a Cheltaidd - maint bach (8vo)

Cylchgronau Cymreig a Cheltaid - maint mawr (4to)

■ Casgliad cyfeiriol Cymreig a Cheltaidd

■ Casgliad cyfeiriol gyffredinol

 


Gan ein bod yn datblygu'r casgliad cyfeiriol ar y silffoedd agored mae croeso i'n darllenwyr anfon unrhyw awgrymiadau trwy ein gwasanaeth ymholiadau arlein.

 

Cael mynediad i ddeunydd printiedig


Gellir cael mynediad i’r casgliad llyfrau printiedig, cylchgronau a phapurau newydd drwy’r catalog arlein. Mae’n bosib y bydd llyfrau cyn 1986 nad ydynt ar gael yn y catalog arlein i’w cael drwy’r catalog meicroffis. Yn ogystal a hyn, mae'n bosib na fydd cylchgronau cyn 1986 ar gael yn y catalog arlein i'w cael drwy mynegai cerdiau hen ffasiwn. Lleolir y catalog meicroffis a'r cabinet mynegai cerdyn yn yr Ystafell Ddarllen gerllaw'r cownter.


Ymholiadau

Os oes gennych ymholiad ynghylch Ystafell Ddarllen y Gogledd yn ystod eich ymweliad, cyfeiriwch ef at y staff y tu ôl i ddesg Ystafell Ddarllen y Gogledd. Dylai unrhyw ymholiadau sydd gennych cyn eich ymweliad gael eu danfon at y tîm ymholiadau

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 26-07-2011