Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

The National Library of Wales

What's On?

Arddangosfeydd Blaenorol

Dim clust, dim nodyn - dim nodyn, dim perthyn, Meri Wells

Gwobr Pwrcasu Richard a Rosemary Wakelin 2011

Gwe, 13 Mai 11 09:44:00

7 Mai - 30 Mehefin 2011

Detholiad o waith ceramig Meri Wells, enillydd Gwobr Pwrcasu Richard a Rosemary Wakelin 2011.

Hengwrt: Pedwar Canmlwyddiant Beibl y Brenin Iago

Hengwrt: Pedwar Canmlwyddiant Beibl y Brenin Iago

Mer, 06 Ebr 11 09:24:00

23 Ebrill - 10 Medi 2011

Arddangosfa i ddathlu pedwar canmlwyddiant cyhoeddi Beibl y Brenin Iago.

Clive Hicks-Jenkins, The Virgin of the Goldfinches (2009)
Cymdeithas Gelfyddyd Gyfoed Cymru / Eglwys Gadeiriol Llandaf
Contemporary Art Society for Wales/Llandaff Cathedral

Clive Hicks-Jenkins: Ôl-Syllol

Mer, 06 Ebr 11 08:56:00

7 Mai - 20 Awst 2011

Arddangosfa bwysig i ddathlu pen-blwydd yr arlunydd Cymreig enwog yn drigain oed.

Byd Bach

Byd Bach - Teithio yng Nghymru a Thu Hwnt

Mer, 23 Maw 11 16:20:00

16 Hydref 2010 - 2 Ebrill 2011

Arddangosfa bwysig yn olrhain hanes teithio yng Nghymru a thu hwnt, drwy gyfrwng delweddau, dyddlyfrau, testunau ac eitemau o gasgliadau unigryw'r Llyfrgell.

Jean-Claude Charbonel, Le Chainon Manquant, 1998

Jean-Claude Charbonel & John Welson, Swrrealaeth: Trwy'r Llygad Celtaidd

Mer, 23 Maw 11 16:05:00

16 Ebrill - 2 Gorffennaf 2011

Arddangosfa o gelf celtaidd gan dau o brif artistiaid swrrealaeth Cymru a Llydaw.

Paul Richardson, 'Plas Lluest'

Lleoedd

Gwe, 10 Rha 10 10:28:00

29 Ionawr - 2 Ebrill 2011

Mae ‘Lleoedd’ yn gasgliad amrywiol o weithiau celf wedi eu creu gan artistiaid lleol ag anawsterau dysgu o Wasanaethau Dydd Plas Lluest.

Awduron Cymru / Writers of Wales

Awduron Cymru

Llu, 29 Tac 10 00:00:00

11 Rhagfyr 2010 - 26 Tachwedd 2011

Y nofelydd Cymraeg Islwyn Ffowc Elis a Bardd Cenedlaethol Cymru, Gillian Clarke, yw'r awduron dan sylw y tro yma.

Yemen: Charles & Patricia Aithie

Yemen: Charles & Patricia Aithie

Iau, 09 Med 10 09:26:00

25 Medi 2010 - 2 Ebrill 2011

Arddangosfa o ffotograffiau trawiadol o gymuned Yemen gan Charles a Patricia Aithie.

Karel Lek - Couple

Curwen: Celf, Geiriau a Cherddoriaeth mewn Print

Iau, 08 Gor 10 11:59:00

10 Gorffennaf - 11 Medi 2010

Arddangosfa o waith Curwen Press i ddathlu ei chyfraniad i gerddoriaeth a chelf Cymru.

Joan Baker - Monknash, 1967

Joan Baker, Ôl-Syllol: 65 mlynedd o arlunio

Llu, 28 Meh 10 09:26:00

10 Gorffennaf - 11 Medi 2010

Arddangosfa'n edrych yn ôl ar yrfa 65 mlynedd yr arlunydd a aned yng Nghaerdydd.

Claudia Williams - Mae’r dydd yn agosáu / The day is drawing near, 2009

Claudia Williams: Cofio Tryweryn

Llu, 14 Meh 10 09:42:00

19 Mehefin - 4 Medi 2010

Golwg bersonol ar ddigwyddiadau Tryweryn drwy lygaid yr arlunydd Claudia Williams.

Denys Short: Blue Cube & Square Route 1

Denys Short: Llwybrau Sgwâr

Mer, 24 Chw 10 10:20:00

1 Mawrth - 4 Mehefin 2010

Arddangosfa o waith yr arlunydd poblogaidd o Sir Benfro.

Gwena! Portreadau o'r Cymry

Gwena! Portreadau o'r Cymry

Llu, 15 Chw 10 09:14:00

1 Chwefror - 19 Mehefin 2010

Cyfle unigryw i weld rhai o wynebau mwyaf eiconig Cymru o gasgliad y Llyfrgell.

Alan Percy Walker: Portmeirion

Alan Percy Walker: Edrychiad Manwl

Llu, 30 Tac 09 15:13:00

7 Rhagfyr - 12 Chwefror 2010

Arddangosfa o luniau dyfrlliw cywrain yr alunydd lleol Alan Percy Walker.

David Tress

David Tress - Ar Drywydd Goleuni Ysblennydd

Maw, 13 Hyd 09 15:58:00

30 Hydref - 24 Rhagfyr 2009

Arddangosfa deithiol o luniau a lluniadau sy'n dwyn ysbrydoliaeth o dirluniau mynyddig cadarn gogledd Prydain, yr Alban a Chymru.

Ken Elias - Folding Images (i)

Ken Elias: Ôl Syllol - Dathlu 40 mlynedd o beintiadau

Mer, 19 Aws 09 14:52:00

11 Medi – 24 Rhagfyr 2009

Arddangosfa hunangofiannol i ddathlu gwaith yr artist, Ken Elias, sy’n byw yng Nghlyn-nedd.

Stuart Evans 'Maelgwyn's chair' Llun: Mark Davey

Stuart Evans: Gofod/Space

Iau, 13 Aws 09 15:59:00

1 Medi - 20 Tachwedd 2009

Arddangosfa o flychau celf a cherflunwaith gan yr artist sy'n byw ger Aberystwyth.

Edward Lhuyd (1660-1709)

Edward Lhuyd (1660-1709)

Maw, 16 Meh 09 14:24:00

29 Mehefin - 21 Awst 2009

Mae 2009 yn nodi trichanmlwyddiant marwolaeth y gwyddonydd a'r ieithegydd Edward Lhuyd. I goffáu hyn mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn cynnal arddangosfa i gydfynd â chynhadledd rhyngwladol ar Lhuyd yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd.

Alistair Crawford, 
Icarus fallen on the hill II, 2007-2009

Alistair Crawford - Rhai Meddyliau a Theimladau

Mer, 03 Meh 09 09:08:00

29 Mehefin - 9 Hydref 2009

Gweithiau'r gorffennol a'r presennol gan yr artist poblogaidd hwn sy'n byw yn ardal Aberystwyth.

Cymdeithas Dyfrlliw Cymru / Watercolour Society of Wales

Y Gorffennol, Y Presennol a'r Dyfodol: 50 Mlynedd o Beintiadau Dyfrlliw yng Nghymru

Mer, 03 Meh 09 08:52:00

29 Mehefin - 21 Awst 2009

Arddangosfa o amrywiol weithiau gan aelodau'r Gymdeithas ar y cyd â dathliadau pen-blwydd y Gymdeithas yn 50.

P B Abery, Sheep Dipping

Ffotograffau o Sir Faesyfed o gasgliad P B Abery

Maw, 17 Maw 09 17:15:00

21 Mawrth 2009 - 14 Awst 2009

Arddangosfa o ffotograffau o gasgliad y Llyfrgell yn bwrw golwg yn ôl ar fywyd y ffotograffydd Percy Benzine Abery (1877-1948).

Cymdeithas Hanes Ceredigion, 1909-2009

Cymdeithas Hanes Ceredigion 1909-2009

Llu, 16 Maw 09 16:37:00

9 Ebrill - 29 Mai 2009

Arddangosfa i ddathlu canmlwyddiant Cymdeithas Hanes Ceredigion.

Cam wrth Gam /Step by Step

Cam wrth Gam

Llu, 09 Maw 09 15:26:00

5 Mawrth 2011 - Mawrth 2012

Cam wrth Gam - Olrhain eich hynafiaid yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Arddangosfa yn rhoi sylw i'r adnoddau hanes teuluol cyfoethog sydd ar gael yn y Llyfrgell.

Peter Edwards, Ryan Giggs, 2007

Derbynion Diweddar

Maw, 10 Chw 09 10:27:00

28 Chwefror 2009 - 27 Mawrth 2009

Dyma arddangosfa o eitemau di-brint a ychwanegwyd trwy bryniad neu rodd at gasgliadau’r Llyfrgell. Mae’r arddangosfa’n cynnwys gweithiau celf mewn ffrâm, lluniau, cerfluniau, brasluniau a ffotograffau, yn ogystal â llawysgrifau ac archifau.

John Meirion Morris

John Meirion Morris - Grymoedd

Iau, 29 Ion 09 11:43:00

28 Chwefror 2009 - 29 Mai 2009

Golwg adolygol ar waith y cerflunydd poblogaidd.

Casgliad Brenhinol © 2008 Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II

Deg darlun gan Leonardo da Vinci

Maw, 06 Ion 09 14:04:00

8 Tachwedd 2008 – 7 Chwefror 2009

Deg darlun gan Leonardo da Vinci: Arddangosfa i Ddathlu Pen-blwydd Ei Fawrhydi Tywysog Cymru yn Drigain Oed.

 

Delwedd: Leonardo da Vinci: Trawslun o benglog, (Manylyn) 1489 Casgliad Brenhinol © 2008 Ei Mawrhydi Y Frenhines Elizabeth II

Awduron Cymru / Authors of Wales

Awduron Cymru

Maw, 02 Rha 08 12:04:00

3 Ionawr - 5 Rhagfyr 2009

Detholiad o archifau, ffotograffau a pheintiadau yn ymwneud â dau gawr llenyddol o Gymru, sef Kate Roberts a Dylan Thomas.

Gareth Parry - Y Ffordd i Nunlla (Hen Ffordd Chwarel)

Gareth Parry - Rhai Llefydd, Rhai Pobl

Llu, 24 Tac 08 16:36:00

6 Rhagfyr - 28 Chwefror 2009

Gweithiau newydd gan artist cyfoes a phoblogaidd o ogledd Cymru.

Ceri Thomas, Grace Mary Williams, Cyfansoddwr 2001-2002

Mapio’r Grŵp Cymreig yn 60

Mer, 08 Hyd 08 14:00:00

8 Tachwedd 2008 - 31 Ionawr 2009

Mapio’r Grŵp Cymreig yn 60: Arddangosfa deithol i ddathlu 60 mlynedd o'r Grŵp Cymreig. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gweithiau cyn aelodau ac aelodau presennol o'r grŵp.

Two Halves Make a Whole gan Blue MacAskill

Llefydd eraill, Lleisiau eraill

Maw, 07 Hyd 08 09:37:00

28 Tachwedd 2008 - 30 Ionawr 2009

Llefydd eraill, Lleisiau eraill: Myfyrdodau artist preswyl sy'n ymchwilio'r daith o gell i ystafell ddarllen. Lleoliad: Hafan a’r Ystafell Addysg

Portraits of Swansea Characters, 'Mrs Gwynn' c.1820. George O. Delamotte.

Gwisg Draddodiadol Cymru

Maw, 30 Med 08 11:34:00

21 Mehefin - 4 Hydref 2008

Arddangosfa sylweddol ar hanes y wisg Gymreig a chyfle unigryw i weld eitemau o gasgliadau preifat a chyhoeddus o bob cwr o Brydain mewn un man.

Llechwedd, Jeremy Moore

Jeremy Moore - Blaenau: Rhwng y Ddaear a'r Nefoedd

Mer, 03 Med 08 10:23:00

20 Medi - 22 Tachwedd 2008

Arddangosfa o weithiau newydd y ffotograffydd o Aberystwyth

100 CBHC / RCAHMW
1908 - 2008

Cofnodion Henebion Cenedlaethol Cymru: Casglu Ein Gorffennol

Gwe, 01 Aws 08 09:10:00

9 Awst - 22 Tachwedd 2008

Arddangosfa i ddathlu canmlwyddiant Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

Co-op, Croeserw,
Tina Carr & Annemarie Schöne

Wynebau Glo - Bywyd ar ôl y Glo yng Nghwm Afan

Llu, 23 Meh 08 09:55:00

28 Mehefin - 6 Medi 2008

Wynebau Glo - Bywyd ar ôl y Glo yng Nghwm Afan. Arddangosfa gan Tina Carr ac Annemarie Schöne.

Rhwymo Llyfr

Kyffin - Dathliad

Mer, 07 Mai 08 10:41:00

14 Mehefin - 2 Awst 2008

Comisiwn arbennig gan Wasg Gregynog a Designer Bookbinders.

Mihangel Jones 'Ceri Allen'

Gwobr Portreadau Cymru 2

Sad, 19 Ebr 08 09:30:00

19 Ebrill - 31 Mai 2008

Cyfle i weld y goreuon o'r gystadleuaeth portread sy'n cael ei chynnal bob dwy flynedd.

Rhan o (Triptych) Geysir Exploding, John Rogers

'O Affrica i Wlad yr Iâ' gan John Rogers

Sad, 05 Ebr 08 09:30:00

5 Ebrill - 31 Mai 2008

Arddangosfa o weithiau gan yr artist o Gaerdydd, yn olrhain y cysylltiadau sydd rhwng y gwledydd Celtaidd â Môr yr Iwerydd.

Protest Bont Trefechan

Protest

Sad, 16 Chw 08 09:30:00

16 Chwefror 2008 - 14 Chwefror 2009

Hanes protestio yng Nghymru o gyfnod Terfysgoedd Beca yn 1843, hyd ymgyrchoedd yr iaith Gymraeg yn yr 1960au.

Breuddwydwyr Ddoeth a Ffôl

Breuddwydwyr Doeth a Ffôl

Mer, 13 Chw 08 09:30:00

13 Chwefror - 28 Mawrth 2008

Trefnir yr arddangosfa gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri, ac mae wedi teithio ar draws Cymru. Ceir gweithdai i ysgolion dan oruchwiliaeth cydlynydd y prosiect, yr hanesydd, Phil Cope.

Becky Adams, A Book Of Small Things

Y Cariad o Greu Llyfrau

Sad, 26 Ion 08 09:30:00

26 Ionawr - 24 Mawrth 2008

Arddangosfa deithiol o Ganolfan Gelf Wrecsam o lyfrau artistiaid a chelf berthnasol.

Nid yw'r Llyfrgell wedi derbyn caniatad i arddangos y llun ar hyn o bryd

'Y Cymoedd' gan Anthony Stokes

Sad, 12 Ion 08 09:30:00

12 Ionawr 2008 - 5 Ebrill 2008

Arddangosfa deithiol o ffotograffau o gymoedd De Cymru.

Winifred Coombe Tennant yn ei Ffrog Briodas, 1895

Winifred Coombe Tennant: Bywyd trwy gelf

Sad, 01 Rha 07 09:30:00

1 Rhagfyr - 24 Mawrth 2008

Arddangosfa o weithiau o gasgliad Winifred Coombe Tennant, un o noddwyr celf mwyaf arwyddocaol yr ugeinfed ganrif. Curadur yr arddangosfa yw Peter Lord ac mae'r gweithiau a ddangosir gan artistaid megis Evan Walters, Kyffin Williams, Gwen John a John Elwyn, o gasgliadau preifat a chyhoeddus.

Chelsea Fan, Bernard Mitchell

Lens 2007 - Gŵyl Dogfennu Cymru â’r Camera

Iau, 08 Tac 07 16:05:00

10 Tachwedd 2007 - 19 Ionawr 2008

Arddangosfa o ffotograffau i gyd fynd â Lens 2007 - Gŵyl Dogfennu Cymru â’r Camera.

Llyfr

Gwasg Gregynog

Sad, 20 Hyd 07 09:30:00

20 Hydref - Ebrill 2008

Arddangosfa ar hanes un o weisg mwyaf unigryw Cymru, Gwasg Gregynog. Bydd cyfle i weld gweithiau gorau'r wasg sydd yng nghasgliadau'r Llyfrgell.

Traed mewn Cyffion: Cymru a Chaethwasiaeth

Traed mewn Cyffion: Cymru a Chaethwasiaeth

Iau, 06 Med 07 12:44:00

8 Medi - 3 Tachwedd 2007

Arddangosfa deithiol yn cofnodi daucanmlwyddiant diwedd masnach caethwasiaeth yn 1807.

Colin See-Paynton Tiding of Magpies

Of a Feather - Colin See-Paynton

Iau, 19 Gor 07 16:18:00

20 Hydref - 5 Ionawr 2008

Casgliad newydd o engrafiadau ar bren ar thema adar, i gyd-fynd â chyhoeddi llyfr newydd gan Wasg Gregynog.

© Alistair Crawford 'Five rooks & a magpie sitting on my fence', 2006.

Casgliad Celf

Llu, 16 Gor 07 10:02:00

14 Gorffennaf - 6 Hydref

Golwg ar gasgliad celf Cymreig eang y Llyfrgell

In the vineyards 
[XXI CPSU Congress Collective Farm, Berezevo]
Anon, 1963

Trysorau o'r Celloedd

Iau, 28 Meh 07 14:50:00

7 Ebrill - 7 Gorffennaf

Arddangosfa'n dathlu gweithiau o gasgliad ffotograffig mwyaf a chyfoethocaf Cymru

Peniarth

Yn y Lle Hwn

Llu, 19 Maw 07 08:00:00

19 o Fawrth 2007 – 3 o Dachwedd 2007
Prif arddangosfa’r flwyddyn i ddathlu can mlynedd ers sefydlu Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cawn ein harwain drwy’r ganrif ddiwethaf drwy gyfrwng ein casgliadau amrywiol.

Tirwedd Cymru

Tirwedd Cymru

Maw, 13 Maw 07 10:38:00

19 o Fawrth – 12 o Fai
Darluniau allan o gasgliadau’r Llyfrgell gan artistiaid a ysbrydolwyd gan dirwedd Cymru, gan gynnwys Richrd Wilson a Syr Kyffin Williams.

Gwasg

John Donne & Robert Owen

Sad, 24 Chw 07 20:00:00

24 o Chwefror 2007 – 6 o Hydref 2007
Arddangosfa o waith John Donne, y bardd o Loegr, a Robert Owen, y sosialydd o Gymru, wedi’u crynhoi o gasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol.

Syr John

100: Canrif y Llyfrgell

Sad, 24 Chw 07 08:00:00

24 o Chwefror – 5 o Ionawr 2008
Golwg ar eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell i gyd-fynd â dathliadau’r canmlwyddiant. Cawn ddilyn datblygiad y Llyfrgell o’r dechreuadau yn 1907 i’r presennol.

Cadw Cartref

Cadw Cartref

Sad, 17 Meh 06 11:23:00

17 o Fehefin 2006 - 10 o Chwefror 2007
Arddangosfa ar hanes cymdeithasol cadw cartref yng Nghymru.

Copyright © Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales 2006

Diweddarwyd: 06-10-2010