Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Ffotograffig/Digidol


Ffotograffydd yn defnyddio chwyddiwr digidol

Mae’r Llyfrgell yn darparu gwasanaethau atgynhyrchu ffotograffig a digidol eang. Mae’r gwasanaethau sydd ar gael yn amrywio o brintiau archifol ffeibr traddodiadol, i ddelweddau digidol mawr mewn du a gwyn ac mewn lliw. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer casgliadau’r Llyfrgell ei hun a phan wneir cais, ar gyfer deunydd personol defnyddwyr y Llyfrgell hefyd.                       

 

 

Delweddau digidol

 

Fel arfer bydd delweddau digidol yn cael eu cyflenwi ar fformat TIFF ac yn cael eu sganio ar 300dpi oni bai y gwneir cais am rywbeth gwahanol. Mae’r holl sganio yn cynnwys lliw sylfaenol a chywiriadau tôn yn unig.

 

 

Printiau o safon uchel

 

Bydd printiau ansawdd uchel yn cael eu cyflenwi ar bapur o bwysau canolig gyda chot rhwsin (R/C) gyda borderi gwyn, oni bai y gwneir cais am rywbeth gwahanol. Lle mae gofyn am yr ansawdd archifol uchaf, gellir gwneud printiau ar bapur ffeibr (papur F/B ).

 

 

Ffotograffydd yn tynnu lluniau gweithiau mewn ffram

Printiau lliw

 

Ar gyfer printiau inkjet mae’r inc pigment a’r cyfrwng printio arbennig a ddefnyddir yn gwneud y printiau yma mor archifol sefydlog â phrintiau ffotograffig lliw traddodiadol. Caiff printiau Inkjet eu hargraffu ar bapur sgleiniog perl neu bapur cain o bwysau 300gm; a bydd yr uned reprograffig yn dewis y cyfrwng mwyaf addas oni wneir cais yn wahanol.

 

 

Sganio Microffilm

 

Mae’r Llyfrgell yn cynnig gwasanaeth sganio du a gwyn manylrwydd isel o ficroffilm sydd yn addas at bwrpas gwaith ymchwil yn unig. Gall y gwasanaeth hwn gael ei ddarparu drwy ebost neu ar CD

 

 

Sut i archebu

 

Am fanylion ar sut i archebu, gweler ein tudalen sut i archebu.

 

Lle mae gofyn i’r printiau fod ar raddfa neu faint penodol mae’n rhaid datgan hyn yn eglur ar y ffurflen gais, ynghyd ag unrhyw gyfarwyddiadau arbennig eraill.

 

Ni ddylid atgynhyrchu atgynyrchiadau a gyflenwir gan y Llyfrgell heb gael caniatâd perthnasol ysgrifenedig gan y Llyfrgell: gweler hawliau cyhoeddi.

 

 

Prisiau

 

Mae prisiau yn amrywio yn ôl eich gofynion a chodir TAW ar y raddfa berthnasol ar bob archeb. Am fanylion llawn gweler ein rhestr brisiau atgynhyrchu deunydd.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 14-12-2009