Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Llygredd


Llwch ar lyfrau
Llwch ar lyfrau

Un o brif elynion y llyfr yw llygredd o'r awyr. Gall llwch a baw gynnwys elfennau o ddadfeiliad cemegol a sborau llwydni, ac felly mae glanhau ein llyfrau a'n silffoedd yn rheolaidd yn bwysig iawn.

 

Gellir defnyddio brws meddal fel brws eillio (blew gwiwer) i gadw'r gelyn draw, ond gall hyn wthio'r llwch a'r baw rhwng y tudalennau. Byddai'n well defnyddio sugnydd llwch arbennig gyda brws meddal ar ei flaen i wneud y gwaith.

Cyfrolau heb eu hamddiffyn
Cyfrolau heb eu hamddiffyn

 

Arbrawf ar hirhoedledd llyfrau

 

Ganol y ganrif ddiwethaf, dechreuwyd ar arbrawf yn ymwneud â hirhoedledd llyfrau. Rhwymwyd nifer o gyfrolau cyffelyb yn yr un arddull. Gosodwyd rhai ohonynt ar silff agored yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth, a gosodwyd y rhai eraill ar silff agored yn Y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain. Gwnaed yn siŵr bod yr amodau storio'r un fath yn y ddau sefydliad parthed lefel y golau, y tymheredd a'r lleithder, a doedd neb i gyffwrdd y llyfrau. Bob 5 mlynedd wedi hynny, bu panel o arbenigwyr yn cymharu'r cyfrolau, a daeth i’r amlwg yn weddol fuan bod y llyfrau yn Llundain mewn tipyn gwaeth cyflwr na'r rhai yn Aberystwyth. Roedd y llyfrau yn Llundain wedi staenio a breuo ac wedi dirywio’n arw tra bod llyfrau Aberystwyth yn parhau i fod mewn cyflwr cymharol dda. Yr unig wahaniaeth rhwng y ddau le oedd glendid yr awyr.

 

Dangosodd yr arbrawf yn glir pa mor niweidiol yw'r math o lygredd awyr a geir mewn dinas fawr brysur, a daeth i’r amlwg pa mor ffodus yw lleoliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru gydag awelon glân yn cyfrannu at hirhoedledd ein casgliadau. Ond er hyn, rhaid cofio bod baw a llwch yn crynhoi hyd yn oed yng nghartrefi a llyfrgelloedd glanaf y gorllewin.

Cyfrolau wedi eu hamddiffyn
Cyfrolau wedi eu hamddiffyn

 

 

Canllawiau i leihau effaith Llygredd

 

Dylid gosod llyfrau a gwrthrychau gwerthfawr eraill mewn blychau diasid, er mwyn lleihau effeithiau niweidiol llygredd o’r awyr.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 09-06-2009