Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Darluniau


Catalog Arlein

 

Cofiwch y gallwch chwilio trwy'r casgliad darluniau trwy'r catalog arlein.

‘An overshot mill in Wales’ (Aberdulais), 1847 gan James Ward
‘An overshot mill in Wales’ (Aberdulais), 1847 gan James Ward

Mae’r Llyfrgell yn casglu lluniau sydd yn darlunio neu bortreadu lleoedd yng Nghymru, pobl o gefndir Cymreig yn byw yng Nghymru a mannau eraill, yn ogystal ag unigolion sydd wedi chwarae rhan yn hanes neu fywyd Cymru.

 

 

Cynnwys y casgliad darluniau

 

Derbynnir eitemau i’r casgliad drwy eu prynu mewn arwerthiannau, gan y cyhoedd, gan orielau neu yn uniongyrchol gan yr arlunwyr. Mae’r Llyfrgell hefyd yn derbyn darluniau fel rhoddion a chymynroddion.

 

Mae’r casgliad yn cynnwys delweddau mewn cyfryngau amrywiol, o beintiadau olew clasurol i gartwnau gwreiddiol ar gyfer papurau newydd, a bellach delweddau ar ffurf ddigidol.

 

Rhennir y casgliad yn sawl categori gwahanol, a gellir canfod  mwy o wybodaeth am rai o’r rhain ar y dudalen casgliad darluniau. Yn ogystal, mae’r dudalen dolenni darluniau allanol yn darparu cysylltiadau i adnoddau allanol.

 

 

‘Four colliers’, circa 1980 Valerie Ganz
‘Four colliers’, circa 1980 Valerie Ganz. © Yr Arlunydd

Mynediad i’r casgliad

 

Deunydd a dderbyniwyd ers 1986

 

Mae pob llun sydd wedi ei dderbyn i’r Llyfrgell ers 1986 ar gael ar y catalog arlein.

 

Deunydd a dderbyniwyd cyn 1986

 
Mae’r Llyfrgell yn weithgar yn trosglwyddo gwybodaeth o’r hen gatalogau i ffurf electronig. Nid yw popeth wedi ei drosglwyddo, a cheir mynediad i lawer o luniau gan ddefnyddio cardiau mynegai yn Ystafell Ddarllen y De.

 

Archebu eitemau

 

Gellir archebu eitemau o’r catalogau ac fe drosglwyddir y gwaith i’r darllenydd ar gyfer eu gweld yn Ystafell Ddarllen y De. Nid oes angen rhybudd o flaen llaw cyn dod i ddefnyddio’r Ystafell Ddarllen, ond os oes gan y darllenydd wybodaeth am eitem neu gasgliad arbennig y mae am ei weld, awgrymir eich bod yn llenwi ein ffurflen ymholiadau arlein o flaen llaw.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 20-09-2013