Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Cardiau Post yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru


"Mynd i farchnad, Station Road, Knighton" gan  P B Abery, tua 1920
"Mynd i farchnad, Station Road, Knighton" gan P B Abery, tua 1920

Mae gan y Llyfrgell Genedlaethol rhyw 15,000 o gardiau post o ddiddordeb Cymreig yn y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig. Mae’r mwyafrif o’r rhain yn rhai topograffig ac maent yn cael eu trefnu yn ôl sir. Mae categorïau eraill yn cynnwys cardiau arlunwaith, hiwmor, gwleidyddiaeth a chardiau modern.

 

 

Hanes y cerdyn post

 

Dechreuodd y cardiau post â llun ddod yn gyffredin ar ôl 1902, gyda’r newidiadau mewn rheolau a oedd yn caniatáu i’r neges a’r cyfeiriad ymddangos ar yr un ochr o’r cerdyn. Roedd hyn yn rhyddhau’r cefn ar gyfer llun. Yn sydyn daeth cardiau post a chasglu cardiau post yn hynod boblogaidd. Erbyn 1909 roedd dros 800 miliwn o gardiau post yn cael eu postio’n flynyddol ym Mhrydain. Roedd mwy yn cael eu prynu er mwyn eu cadw fel swfenîr yn unig.

 

Daeth y cyfnod o 1902-1919 i gael ei adnabod fel “Oes Aur Cardiau Post.” Roedd bron pob ffotograffydd proffesiynol a oedd yn gweithio bryd hynny ynghlwm wrth gynhyrchu cardiau post.

 

 

Llanfair Dyffryn Ceiriog, ffotograffydd anhysbys, tua 1910
Llanfair Dyffryn Ceiriog, ffotograffydd anhysbys, tua 1910

Ymhlith y rhain roedd:

 

  • P B Abery o Lanelwedd
  • William Harwood o Gricieth 
  • Arthur Lewis o Aberystwyth

 

Gellir canfod casgliadau o negatifau gan y ffotograffwyr hyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
 

Yn ogystal mae yna nifer o gardiau post da gan amrywiaeth o ffotograffwyr lleol sy’n adnabyddus i ni drwy eu henwau yn unig.

 

 

 

Poblogrwydd y cardiau post

 

Roedd cardiau post mor boblogaidd fel bod cardiau ar bob agwedd o fywyd (ac weithiau marwolaeth) i’w cael.

 

 

Pier Llandudno o’r Grand Hotel, tua 1910
Pier Llandudno o’r Grand Hotel, tua 1910

Ar raddfa ehangach, roedd cwmnïau cenedlaethol megis Francis Frith, Valentines ac E T W Dennis yn cynhyrchu llawer iawn o gardiau post o Gymru. Dewisodd y cwmnïau mawr hyn bortreadu yr agweddau hynny ar ardal a oedd yn fwyaf tebyg o apelio at dwristiaid.

 

Ymysg eu hoff bynciau roedd:

 

  • golygfeydd mynyddig
  • cestyll
  • promenadau
  • pier glan-y-môr

 

 

“Lest we forget” a gyhoeddwyd gan Undeb Cenedlaethol y Gymdeithas Geidwadol a’r Gymdeithas Gyfansoddiadol
“Lest we forget” a gyhoeddwyd gan Undeb Cenedlaethol y Gymdeithas Geidwadol a’r Gymdeithas Gyfansoddiadol

Roedd poblogrwydd y cardiau post hefyd yn cyd-fynd gyda’r cyfnod pan oedd David Lloyd George mewn grym. Cyhoeddwyd rhai cannoedd o gardiau yn portreadu David Lloyd George. Nid oedd pob un yn garedig!

 

Oherwydd y costau a oedd ynghlwm wrth gynhyrchu ffotograffau, roedden nhw’n bethau prin mewn papurau newydd. O ganlyniad byddai nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol a lleol yn cael eu tynnu gan ffotograffwyr mentrus ac yn cael eu gwerthu fel cardiau post. Mae’r genres yma yn enghreifftiau o ffoto-newyddiaduraeth. Un gyfres o’r fath yw trychineb pwll glo Senghennydd yn 1913. Er bod y syniad o gynhyrchu cerdyn post o ddigwyddiad o’r fath yn atgas i nifer o bobl, dyma’r union fath o ddelwedd y byddai pobl yn ei gweld ar deledu neu mewn papurau newydd pe bai digwyddiad o’r fath yn y newyddion heddiw.

 

 

Y cerdyn post heddiw

 

Mae’r 20 mlynedd diwethaf wedi gweld adfywiad yn hanes y cerdyn post â llun. Mae nifer o ffotograffwyr cyfoes megis Jeremy Moore, Martin Turtle a Patricia Aithie i gyd yn dewis cyhoeddi eu gwaith ar ffurf cardiau post. Caiff y cyfan ei gynrychioli yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 09-06-2009