Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Uned Cadwraeth Ataliol


Glanhau cyfrol
Glanhau cyfrol

Sefydlwyd Uned Cadwraeth Ataliol y Llyfrgell Genedlaethol yn ystod y 1990au er mwyn canolbwyntio ar lanhau ac amddiffyn y casgliadau drwy ddulliau cadwraethol.

 

Mae’r uned hon yn gymorth i arafu dadfeiliad y gwrthrychau gan estyn eu hoes yn sylweddol.


Mae amgylchedd sefydlog parthed tymheredd a lleithder cymharol yr awyr yn hollbwysig er lles y casgliadau. Rydym yn monitro amgylchedd y storfeydd a’r mannau arddangos er mwyn sicrhau nad yw’r amodau’n rhy sych neu’n rhy laith. Gall awyrgylch rhy sych freuo deunyddiau fel papur, lliain a lledr, a gall awyrgylch rhy laith ddenu llwydni a phryfetach gan beryglu’r casgliadau.


Hyfforddir holl staff newydd y Llyfrgell mewn ymwybyddiaeth cadwedigaeth fel rhan o'u cwrs sefydlu.

 

Aelodau o’r tîm glanhau
Aelodau o’r tîm glanhau

Glanhau Cadwraethol

 

Oherwydd oblygiadau iechyd a diogelwch, mae’n rhaid sicrhau bod casgliadau’r Llyfrgell yn lân ac yn ddiogel ar gyfer staff a darllenwyr - gall y llwch organig a’r sborau a geir ar lyfrau fod yn andwyol i iechyd. Cyflawnir y gwaith glanhau pwysig hwn gan staff yr uned sy’n defnyddio offer arbennig ar gyfer yr orchwyl.

 

Yn gyson derbynnir i’r Llyfrgell gyfrolau ac eitemau llygredig, yn llawn llwch, llwydni a phryfetach. Daw’r eitemau hyn yn aml o hen gapeli llaith, neu o seler neu atig lle’r oedd yr amodau amgylcheddol yn bur wael.

 

Er mwyn lleihau'r posibiliad o lygru casgliadau’r Llyfrgell, mae rhoi sylw i dderbynion newydd llygredig yn flaenoriaeth, ac yn 2006 agorwyd adeilad arbennig yn y Llyfrgell ar gyfer derbyn a thrin eitemau o’r fath.

 

Yn 2006 prynwyd peiriant y Depulvera a all lanhau 12 llyfr y funud. Bu’r peiriant hwn yn anhepgor ar gyfer glanhau'r 100,000 o gyfrolau a symudwyd o Ystafell Ddarllen y Gogledd cyn bod yr ardal honno’n cael ei hadnewyddu.

 

 

Amrywiol flychau
Amrywiol flychau

Blychau a Ffolderi Amddiffynnol

 

Gan fod blwch yn creu microhinsawdd o’i fewn ac yn amddiffyn llyfrau rhag llu o elynion, rhoddir pwys mawr ar focsio eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell.

Ym 1999, prynodd y Llyfrgell beiriant Kasemake 503 ar gyfer gwneud blychau. Mae’r byrddau a ddefnyddir i gynhyrchu’r blychau i gyd yn ddiasid ac o ansawdd cadwraethol. Bellach mae gennym ail beiriant gwneud blychau yn yr uned, a rhwng y ddau beiriant cynhyrchir oddeutu 10,000 o flychau’n flynyddol.

 

 

Cynllun wedi ei amgáu
Cynllun wedi ei amgáu

Amgáu a Mowntio

 

Gwarchodir eitemau gwastad megis mapiau, posteri a chynlluniau drwy eu hamgáu mewn polyester sydd o ansawdd cadwraethol. Bydd hyn yn arafu dirywiad y gwrthrychau, ac yn aml yn gwneud i ffwrdd â'r angen i drwsio eitemau o'r fath sydd eisoes wedi rhwygo. Amgaeir dros 2000 o eitemau'n flynyddol yn yr uned.

 

Gwarchodir tua 1000 o eitemau gwastad eraill fel lluniau, printiau a ffotograffau drwy eu gosod mewn mowntiau yn barod i'w storio neu eu harddangos. 

 

 

Mwy o ddelweddau o'r Uned Cadwraeth Ataliol

 

Blwch mawr
Blwch mawr
Peiriant gwneud blychau
Peiriant gwneud blychau
Llechi mewn blwch
Llechi mewn blwch
Seliau cŵyr mewn waled arbennig
Seliau cŵyr mewn waled arbennig
Cyfrolau cyn eu glanhau a'u bocsio
Cyfrolau cyn eu glanhau a'u bocsio
Cyfrolau ar ôl eu glanhau a'u bocsio
Cyfrolau ar ôl eu glanhau a'u bocsio

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 09-06-2009