Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

About NLW

Am LlGC

Hawliau a Thrwyddedu


Mae'r adran hon yn disgrifio'r camau y bydd angen i chi eu cymryd er mwyn gwneud cais am:

 
- gopi digidol neu ffisegol o eitemau nad ydynt ar gael ar y wefan;


- fersiynau cydraniad uwch o eitemau o gasgliadau digidol y Llyfrgell;


- ddefnydd o eitemau o'r casgliadau digidol nad yw wedi'i ganiatáu fel arall (ee defnydd masnachol o ddelwedd sydd ar gael dan drwydded agored anfasnachol).

 

Ceir mwy o wybodaeth am y modd y mae'r Llyfrgell yn ymdrin â hawlfraint yn adran Hawlfraint y wefan.


 
Noder os gwelwch yn dda:

 

(1) Mae'n bosibl y bydd angen caniatâd y deiliad hawliau arnoch os yw'r eitem dan hawlfraint. Bydd y cyfrifoldeb arnoch chi i glirio unrhyw hawliau sy'n berthnasol i'r eitem(au) rydych am ddefnyddio.


(2) Codir ffi a bydd yr atgynhyrchiadau yn cael eu darparu dan amodau trwydded.
 

 
I'r sawl sy'n dymuno cyflwyno cais, bydd dau gam i'w cymryd:
 
 
Y Cam Cyntaf


Cysylltwch â'r Tim Ymholiadau i wneud cais am gopi.


Os ydych yn gwneud cais am gopi, bydd Ffurflen Atgynhyrchu yn cael ei hanfon atoch i'w llenwi â manylion am yr eitem rydych yn archebu copi ohono ac i nodi ym mha gyfrwng yr hoffwch ei dderbyn.

 

 

Yr Ail Gam

Os hoffech chi wneud cais am ddelwedd ansawdd uchel neu ganiatâd i ddefnyddio delwedd at bwrpas sydd fel arall yn waharddedig, bydd angen trwydded arnoch.

Wrth wneud cais am drwydded gan y Tim Ymholiadau, bydd angen i chi ddarparu'r manylion canlynol:
 
- rhif cyfeirnod neu deitl/disgrifiad o'r ddelwedd;
- y fformat yr ydych ei angen ynddo (e.e. .jpeg, .pdf) a'r cydraniad (e.e. 300dpi);
- y cynnyrch y bydd yn cael ei defnyddio ynddo (e.g. pamffled, poster, gwefan);
- y rhediad cynhyrchu (e.e. 500 copi), os yw'n berthnasol;
- y tymor y byddwch ei angen ar ei gyfer (e.e. 3 blynedd) ; ac
- y diriogaeth y bydd yn cael ei defnyddio a'i dosbarthu o fewn iddi (e.e. Cymru, y Deyrnas Gyfunol, byd-eang).

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 11-03-2013