Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Deall Graddfeydd Mapiau


Mae graddfa map yn dangos beth yw’r berthynas rhwng pellter ar fap a’r pellter cyfatebol ar y ddaear. Caiff pob map ei leihau o’i faint iawn, ac mae’r rhan fwyaf o fapiau printiedig yn cael eu darlunio i raddfa sengl gyson.

 

Gall graddfa gael ei disgrifio mewn sawl ffordd wahanol:

 

1.      Graffigol fel llinell rhywle ar y map (fel arfer ymyl y dudalen), wedi ei nodi gyda phellteroedd, megis milltiroedd neu gilomedrau.

 

2.      Ar lafar, fel datganiad, megis ‘1 fodfedd i 1 filltir’ neu ‘2 gentimedr = 1 cilomedr’. Tueddir i ddefnyddio modfeddi ar fapiau hŷn a chentimedrau ar fapiau mwy newydd, er bod rhai yn dal i ddefnyddio modfeddi.

 

3.      Fel cymhareb neu ffracsiwn cynrychiadol (RF) megis 1:50,000 neu 1:250,000

 

Mae’r canlynol yn ddetholiad o ddatganiadau llafar a ffracsiynau am raddfeydd mapiau cyffredin:

 

 

Graddfa Lafar

Ffracsiwn

50 modfedd i 1 filltir

1:1,250

25 modfedd i 1 filltir

1:2,500

10 cm = 1 km

1:10,000

6 modfedd i 1 filltir

1:10,560

2½ modfedd i 1 filltir

1:25,000

2 cm = 1 km

1:50,000

1 fodfedd i 1 filltir

1:63,360

1 cm = 1 km

1:100,000

½ modfedd i 1 filltir

1:126,720

2 cm = 5 km

1:250,000

¼ modfedd i 1 filltir

1:253,440

1 cm = 5 km

1:500,000

1 fodfedd i 10 milltir

1:633,600

1 cm = 10 km

1:1,000,000

 

 

Yn aml cyfeirir at fapiau fel rhai ar raddfa fawr neu ar raddfa fach, a’r mwyaf yw’r rhif wedi’r colon yn y ffracsiwn cynrychiadol (RF) y lleiaf yw graddfa’r map. Mae beth sy’n cyfrif fel map ar raddfa fawr neu fap ar raddfa fach yn amrywio; mae’r Llyfrgell yn defnyddio’r diffiniadau canlynol:

 

  • Graddfa Fawr: mwy na 1:25,000
  • Graddfa Ganolig: 1:25,000 – 1:250,000
  • Graddfa Fach: llai na 1:250,000

 

Bydd eitemau ar raddfa mwy na 1:100 yn aml yn cael eu trin fel dyluniadau pensaernïol neu gynlluniau peirianneg yn hytrach na mapiau.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 10-03-2007