Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Hunangymorth


Dyma restr fer o gynghorion cadwraethol a fydd o gymorth i warchod  amrywiol gasgliadau, ac yn fodd i’w hamddiffyn rhag y prif elynion gan estyn oes y gwrthrychau’n sylweddol.

 

 

Blwch diasid
Blwch diasid
  • Sicrhewch yr amodau amgylcheddol gorau o ran tymheredd a lleithder yr awyr - dylai hyn warchod eich casgliadau rhag llwydni a phryfed.

  • Gosodwch eich llyfrau mwyaf gwerthfawr mewn blychau pwrpasol neu mewn cypyrddau caeëdig. Mae hyn yn creu microhinsawdd fwy sefydlog.

  • Peidiwch â storio llyfrau gwerthfawr yn yr atig. Gall fod yn boeth iawn yno yn ystod y dydd, ac yn oer iawn yn ystod y nos.

  • Er mwyn lleihau effaith andwyol goleuni, gosodwch lenni trwchus ar ffenestri gan sicrhau eu bod ar gau pan nad yw’r ystafell yn cael ei defnyddio.

Menig cotwm
Menig cotwm
  • Gosodwch eich darluniau a’ch silffoedd llyfrau allan o gyrraedd goleuni uniongyrchol yr haul. Yn ogystal, ni ddylid eu gosod uwchben rheiddiaduron.

  • Defnyddiwch olau gwynias (incandescent) nad yw’n cynnwys pelydrau uwchfioled. Gellir gosod bylbiau watedd isel gyda swîts pylu i osod lefel y golau mor isel ag sy’n gyfforddus i’ch llygaid.

  • Gwisgwch fenyg cotwm wrth drin a thrafod ffotograffau a’r llyfrau mwyaf gwerthfawr. Bydd hyn yn gwarchod eitemau rhag yr asid brasterog a ddaw o’n bysedd.
Crud llyfr
Crud llyfr

  • Er mwyn atal difrod gan nwyon asidig, sicrhewch fod eich silffoedd a’ch cypyrddau pren wedi eu selio â farnais polyurethane.

  • Defnyddiwch grud i gynnal cyfrolau bregus.

  • Peidiwch byth a defnyddio tâp selo i drwsio eich llyfrau (mae’n melynu ac yn staenio). Gellir archebu tâp o ansawdd cadwraethol ar gyfer mân drwsio.

  • Aeth bwyd lledr (leather dressing) allan o ffasiwn. Ymddengys ei fod yn gwneud mwy o ddrwg nac o les, a’r cyngor diweddaraf yw i ni beidio â’i ddefnyddio ar ein cloriau lledr.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 05-09-2011