Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Casgliad ardderchog Syr John Williams yw craidd casgliad llyfrau print Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Rhoddodd ei lyfrgell yn rhodd i’r genedl pan sefydlwyd y Llyfrgell Genedlaethol yn 1907.
Dechreuodd Syr John gasglu llyfrau Cymraeg tua 1870 ac fe dyfodd o fod yn hobi i fod bron yn obsesiwn gan brynu llyfrgelloedd cyfan gyda’r nod o’u cyflwyno i’r Llyfrgell Genedlaethol pan sefydlwyd hi.
Symudwyd y casgliad o gartref Syr John yn Llanstephan i Aberystwyth ym mis Ionawr 1909. Dros gyfnod o 2 ddiwrnod, aethpwyd a dros 12 tunnell o lyfrau gyda cheffyl a chert a thrên i’r Llyfrgell Genedlaethol newydd.
Yn ôl Siarter y Llyfrgell, os bydd y Llyfrgell byth yn symud o Aberystwyth, bydd y casgliad amhrisiadwy hwn yn mynd yn eiddo i Brifysgol Aberystwyth.
Mae'r casgliad cyfan yn cynnwys tua 26,360 o gyfrolau. Ceir ynddo ystod eang o bynciau, ond yn bennaf o ddiddordeb Cymreig. Yn y casgliad fe geir 19 o'r 22 llyfr Cymraeg y gwyddom iddynt gael eu cyhoeddi cyn 1600, yn eu plith y 3 cynharaf: