Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Tymheredd a Lleithder


Yn gyffredinol, mae ar lyfr ac eitemau archifol eraill angen tymheredd sefydlog o rwng 16ºC a 18ºC a lleoliad lle mae lleithder yr awyr (RH - relative humidity) rhwng 40% a 55%. Bydd hyn yn sicrhau nad yw'r deunyddiau yn rhy laith nac yn rhy sych.

 

Amgylchedd llaith

 

Os yw'r amgylchedd yn rhy laith ac yn rhy gynnes (fel mewn ystafell ymolchi neu gegin lle ar adegau ceir RH o 80% neu fwy), gall sborau llwydni egino gan ddifrodi, staenio a gwanhau gwrthrychau.

Effaith llwydni ar bapur
Effaith llwydni ar bapur

 

Amgylchedd sych

 

Mewn amgylchedd sy'n rhy sych (RH 30% neu is) gall eich llyfrau freuo yn sylweddol. Digwydd hyn yn aml mewn tai yn ystod y gaeaf pan fo’r gwres canolog ymlaen a’r ffenestri ar gau.

 
 

Amodau amgylcheddol ansefydlog

 

Ffactor arall sy'n rhoi straen mawr ar wrthrychau yw newidiadau cyson o un eithaf i’r llall parthed y tymheredd a'r lleithder. Wrth i hyn ddigwydd, bydd papur a lledr yn chwyddo ac yn crebachu am yn ail wrth ennill a cholli dŵr gan wanhau'r papur a chracio'r lledr. Digwydd hyn gan amlaf mewn safleoedd uwch ben rheiddiaduron sy'n oeri'n gyflym ar ôl cael eu diffodd neu mewn atig sy'n gallu bod yn boeth iawn yn ystod y dydd ac yn oer iawn yn ystod y nos.

 

Drwy symud eitemau o'r atig neu o seler laith i amgylchedd mwy ffafriol, gellir estyn oes llyfrau a deunyddiau archifol eraill gymaint â dengwaith.  

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 09-03-2011