Llyfrau Gleision 1847

Cyffro cymdeithasol yng Nghymru

Cyfnod o gyffro a chynnwrf cymdithasol oedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg yng Nghymru. Daeth Siartiaeth i fri yn yr ardaloedd diwydiannol yn ystod y 1830au, a bu gwyr fel Henry Vincent, John Frost a Zephaniah Williams yn ymgyrchu o blaid diwygiadau cymdeithasol a gwleidyddol drwy gynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored. Fel y gellid ei ddisgwyl, cafwyd sawl gwrthdrawiad â'r awdurdodau; bu terfysg yn Llanidloes ym mis Ebrill 1839 ac wedyn yng Nghasnewydd ym mis Tachwedd yr un flwyddyn pan ddaeth torf o ugain mil i'r dref, a nifer ohonynt yn ddynion arfog. Bu ymladd yn y stryd o flaen Gwesty Westgate a lladdwyd dros ugain o brotestwyr pan daniodd y milwyr arnynt.

Merched Beca

Bu hefyd gyffro cymdeithasol yn ardaloedd de-orllewin Cymru yn ystod yr un cyfnod. Y cynnydd mawr yn y boblogaeth, tlodi'r gymdeithas ynghyd ag anghyfiawnder a gormes y tirfeddianwyr oedd wrth wraidd yr anfodlonrwydd hwn, - anfodlonrwydd a'i hamlygodd ei hun yn nherfysgoedd Beca o 1839 hyd at ganol y 1840au.Y llu o dollbyrth, a berthynai i'r ymddiriedolaethau ffyrdd, ac a sefydlwyd yn niwedd y ddeunawfed ganrif, oedd prif darged Merched Beca, sef dynion wedi eu gwisgo yn nillad gwragedd, a ymosodai ar y tollbyrth a'u dinistrio. Yr oedd i'r mudiad protest hwn gefnogaeth eang. Lledodd ei weithgarwch yn y man, - ymosodwyd ar Dloty Caerfyrddin a bygythiwyd tirfeddianwyr ac ynadon fel ei gilydd.

Ymchwiliad i gyflwr addysg yng Nghymru

Rhoddwyd cyhoeddusrwydd mawr i'r digwyddiadau hyn yn y prif bapurau newydd gan gynnwys The Times, a mynegwyd y farn mai diffyg addysg ymhlith y Cymry a fu'n bennaf gyfrifol am yr aflonyddwch cymdeithasol hwn. Credai diwygwyr cymdeithasol y cyfnod mewn addysg fel meddyginiaeth ar gyfer drygau cymdeithasol, ac yr oedd y gred mai anwybodaeth oedd gwreiddyn drygau'r oes yn gyffredin yn ystod y cyfnod. Felly, ym mis Mawrth 1846, rhoes William Williams, yr Aelod Seneddol dros Coventry (ond brodor o Lanpumsaint yn Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol), gynnig ger bron aelodau Ty'r Cyffredin, yn galw am ymchwiliad i gyflwr addysg yng Nghymru. Cytunodd y Llywodraeth y mis Gorffennaf dilynol, penodwyd R. R. W. Lingen, Jellynger C. Symons ac H. R. Vaughan Johnson i ymgymryd â'r gwaith, ac ymwelodd y tri a'u cynorthwywyr â phob ardal yng Nghymru. Daeth y gorchwyl o gasglu tystiolaeth ac ystadegau i ben erbyn 3 Ebrill 1847, a chyflwynodd Lingen ei adroddiad i'r Llywodraeth ar 1 Gorffennaf y flwyddyn honno yn dair o gyfrolau sylweddol.

Brad y Llyfrau Gleision

Ni ellir gor-bwysleisio gwerth yr adroddiad hwn i haneswyr cymdeithasol Cymru canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, oblegid ceir toreth o wybodaeth ynddo, nid yn unig am gyflwr echrydus cyfundrefn addysgol y wlad, ond am safonau byw a gweithio yn yr ardaloedd diwydiannol ac yn yr ardaloedd gwledig. Ceir ynddo hefyd sylwebaeth uniongyrchol ar gyflwr crefydd a moes trigolion y wlad. Ond achosodd yr adroddiad helynt a chynnwrf mawr drwy Gymru gyfan, a hynny'n bennaf oherwydd sylwadau sarhaus y tri chomisiynydd Anglicanaidd di-Gymraeg ar yr iaith Gymraeg, ar Ymneilltuaeth ac ar foesau'r Cymry. O ganlyniad bu 'Brad y Llyfrau Gleision' fel y daethpwyd i adnabod yr helynt, yn drobwynt yn hanes Cymru. Yn wir, cyfeiriodd yr Athro Kenneth O. Morgan at yr adroddiad a'i ganlyniadau fel 'the Glencoe and the Amritsar of Welsh history'.

Un o ganlyniadau anorfod yr adroddiad oedd yr effaith a gafodd ar psyche ac ar feddylfryd y genedl. Dyma'r pryd y dechreuodd y Cymro cyffredin goleddu'r syniad mai drwy addysg a gwybodaeth a'r gallu i siarad a chyfathrebu yn Saesneg y gallai ddringo'n gymdeithasol. Athroniaeth Samuel Smiles a gariai'r dydd bellach - byddai addysg a gwybodaeth o'r Saesneg yn gyfrwng i alluogi'r Cymro distadlaf godi yn y byd a gwella'i ystâd. Yn sgil 'Brad y Llyfrau Gleision' y dechreuodd y Cymry fagu cymhleth ynglyn â'u delwedd yng ngwydd y byd, ac y mae olion dylanwad yr Adroddiad heb lwyr ddiflannu hyd y dydd heddiw.

Darllen pellach

  • Lewis Edwards, 'Addysg yng Nghymru', Y Traethodydd, 4 (1848), 112-36.
  • Lewis Edwards, 'Adroddiad y dirprwywyr', Y Traethodydd, 4 (1848), 240-51.
  • Frank Price Jones, 'The Blue Books of 1847', in Jac L. Williams and Gwilym, Rees Hughes, eds, The History of education in Wales (Swansea, 1978), 127-44.
  • Prys Morgan, 'From long knives to Blue Books', in R. R. Davies, Ralph A. Griffiths, Ieuan Gwynedd Jones and Kenneth O. Morgan, eds, Welsh society and nationhood: historical essays presented to Glanmor Williams (Cardiff, 1984), 199-215.
  • Hywel Teifi Edwards, 'Y Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg', yn Geraint H. Jenkins, gol., Cof cenedl: ysgrifau ar hanes Cymru, II (Llandysul, 1987), 119-51.
  • Prys Morgan, gol., Brad y Llyfrau Gleision (Llandysul, 1991).
  • W. Gareth Evans, '"A barrier to moral progress and commercial prosperity": 150th anniversary of the Blue Books', Planet 123 (1997), 88-93.
  • Gwyneth Tyson Roberts, The Language of the Blue Books: the perfect instrument of empire (Cardiff, 1998).
  • Huw Walters, 'William Morris, Yr Athraw a'r “Llyfrau Gleision”', yn Cynnwrf canrif: agweddau ar ddiwylliant gwerin (Abertawe, 2004), 82-99.

Nadolig 2014
a Chalan 2015

Bydd y Llyfrgell yn cau ddydd Mawrth 23 Rhagfyr am 6yh ac yn ailagor am 9.30yb ddydd Gwener 2 Ionawr.

Nadolig llawen i bawb 

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?