Llyfr Oriau 'De Grey'

Cyfeirnod: Llsgr. NLW 15537C

Cyflwyniad

Ar sail y niferoedd sydd wedi goroesi, gellir honni mai Llyfrau Oriau oedd llawysgrifau mwyaf poblogaidd Gorllewin Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol a'r Dadeni. Diogelwyd enghreifftiau hynod addurnedig a choeth ar y naill law, ac eraill nad ydynt ond testunau moelion heb arlliw o addurn ar eu cyfyl ar y llall. Cynhyrchwyd degau o filoedd ohonynt yn fasnachol, a diogelir miloedd o enghreifftiau heddiw mewn llyfrgelloedd, amgueddfeydd a chasgliadau preifat trwy'r byd.

Trwy gyfrwng Llyfrau Oriau, gallai lleygwyr defosiynol trwy Orllewin Ewrop ddilyn patrwm o addoli yn eu cartrefi yn seiliedig ar wasanaethau dyddiol yr eglwys, sef Plygain, Lauds, Prime, Terce, Sext, Noe, Gosber a Chwmplin. Ond, â chynifer o'r Llyfrau yn weithiau addurnol, daethant hefyd yn symbolau poblogaidd o gyfoeth a statws ymysg haenau uchaf cymdeithas yn ystod rhan olaf yr Oesoedd Canol.

Cynnwys

Cnewyllyn pob Llyfr Oriau oedd 'Oriau'r Forwyn', sef cyfres o wyth dilyniant o salmau ac o weddïau er anrhydeddu'r Forwyn Fair, i'w hadrodd yn ystod pob un o oriau canonaidd y diwrnod. Yn aml, addurnwyd dechrau pob dilyniant gan fân-ddarlun o ddigwyddiad ym mywyd y Forwyn, o Gyfarchiad yr Angel (Plygain) hyd ei Choroniad (Cwmplin), mân-ddarluniau wedi eu gosod yn aml i wynebu cyfres o ddarluniau o Ddioddefaint Crist. Mae'r darluniau hyn yn rhoi i ni gipolwg gwerthfawr o fywyd beunyddiol yn ystod yr Oesoedd Canol.

Ar ddechrau pob Llyfr Oriau ceir calendr yn rhestru gwyliau pwysig yr Eglwys yn ystod pob mis o'r flwyddyn, gan gynnwys gwyliau saint rhyngwladol a lleol. Weithiau, cynhwyswyd darluniau o oruchwylion beunyddiol ac o arwyddion y Sidydd i gyd-fynd â'r misoedd a restrir.

Llyfr Oriau 'De Grey'

Ysgrifennwyd Llyfr Oriau 'De Grey', sydd o Arfer Caersallog, ar felwm, ac mae'n un o nifer o lawysgrifau tebyg a luniwyd yn Fflandrys ar gyfer y farchnad yn Lloegr yng nghanol y 15fed ganrif. Mae'n cynnwys yr elfennau a ganlyn:

f. 1

Calendr

f. 13

Gweddïau'r Santes Ffraid, neu'r Pymtheg 'O'

f. 20v

Coffadwriaeth y Saint

f. 37v

Oriau'r Forwyn

f. 96v

O intemerata a'r Obsecro te

f. 101

Septem gaudia

f. 104

Gweddïau i Rannau'r Groes ac i Archollion Crist

f. 148

Salmau o Edifeirwch a'r Litani

f. 165

Gwasanaeth y Meirw

f. 189

Cyflwyniadau Eneidiau

f. 204

Salmau'r Dioddefaint

f. 216

Sallwyr Hierôm Sant


Yn cyd-fynd â'r testun mae tros drigain o ddelweddau, gan gynnwys mân-ddarluniau sy'n llenwi hanner dalennau neu ddalennau cyfain, a hefyd flaenlythrennau addurnedig hardd.

1. Ionawr: dyn yn eistedd o flaen lle tân; Y Dyfrwr (f. 1)
2. Chwefror: tocio coed; Y Pysgodyn (f. 2)
3. Mawrth: torri coed; Yr Hwrdd (f. 3)
4. Ebrill: gorymdaith eglwysig; Y Tarw (f. 4)
5. Mai: hebogwr yn hela; Yr Efeilliaid (f. 5)
6. Mehefin: pladurio; Y Cranc (f. 6)
7. Gorffennaf: medi; Y Llew (f. 7)
8. Awst: ffustio; Y Forwyn (f. 8)
9. Medi: gwasgu grawnwin; Y Fantol (f. 9)
10. Hydref: hau; Y Sgorpion (f. 10)
11. Tachwedd: dymchwel mes ar gyfer moch; Y Saethydd (f. 11)
12. Rhagfyr: lladd mochyn; Yr Afr (f. 12)
13. Y Drindod: Duw a'r Crist croeshoeliedig (f. 20v)
14. Ioan Fedyddiwr (f. 24v)
15. Ioan yr Efengylydd (f. 26v)
16. Thomas Sant o Gaergaint (f. 28v)
17. San Siôr a'r ddraig (f. 31v)
18. Y Santes Marged (f. 33v)
19. Y Santes Barbara (f. 35v)
20. Gwewyr yng Ngardd Gethsemane (f. 37v)
21. Cyfarchiad yr Angel Gabriel (f. 38)
22. Bradychu Crist (f. 45v)
23. Yr Ymweliad (f. 46)
24. Priflythyren: Yr Ysbryd Glân (f. 53)
25. Priflythyren: Yr Archangel Mihangel (f. 54)
26. Priflythyren: Pedr Sant a'r Apostol Paul (f. 55)
27. Priflythyren: Andreas Sant (f. 55v)
28. Priflythyren: Steffan Ferthyr (f. 55v)
29. Priflythyren: Lawrens Sant (f. 56)
30. Priflythyren: Niclas Sant (f. 57)
31. Priflythyren: Antwn Sant o'r Aifft (f. 57v)
32. Priflythyren: Sebastian Sant (f. 58)
33. Crist gerbron Peilat (f. 61v)
34. Geni Crist (f. 62)
35. Fflangellu Crist (f. 66v)
36. Gabriel yn cyfarch y Bugeiliaid (f. 67)
37. Crist yn cario'r Groes tua Chalfaria (f. 70v)
38. Gwrogaeth y Doethion (f. 71)
39. Y Croeshoeliad (f. 74v)
40. Cyflwyno Crist yn y Deml (f. 75)
41. Disgyniad o'r Groes (f. 78v)
42. Herod a Chyflafan y Diniwed (f. 79)
43. Gosod Crist yn y bedd (f. 84v)
44. Ffoi i'r Aifft (f. 85)
45. Priflythyren: Y Forwyn Fair a'r Plentyn (f. 92)
46. Priflythyren: Pietà, Y Forwyn Fair a'r Crist Croeshoeliedig (f. 96v)
47. Priflythyren: Cyflwyno'r Forwyn fel plentyn yn y Deml (f. 101)
48. Priflythyren: Y Cwymp (f. 104)
49. Priflythyren: Croesau Calfaria (f. 104v)
50. Priflythyren: Pen Crist (f. 104v)
51. Priflythyren: Yr archoll yn llaw dde Crist (f. 105)
52. Priflythyren: Yr archoll yn llaw chwith Crist (f. 105)
53. Priflythyren: Yr archoll yn ystlys Crist (f. 105v)
54. Priflythyren: Yr archoll yn nhroed dde Crist (f. 106)
55. Priflythyren: Yr archoll yn nhroed chwith Crist (f. 106)
56. Y Croeshoeliad: Crist rhwng dau leidr (f. 108)
57. Arfbais De Quincy, Ieirll Caerwynt (f. 112)
58. Arfbais teulu Astley (f. 118)
59. Arfbais teulu Grey o Ruthun (f. 124)
60. Arfbais teulu Hastings (f. 137)
61. Arfbais teulu Bonville (f. 145)
62. Y Farn Fawr (f. 147v)
63. Arfbais Ailmer de Valence (f. 151)
64. Arfbais teulu Woodville (f. 161)
65. Arfbais teulu Harrington (f. 168)
66. Dyrchafu eneidiau i'r Nefoedd (f. 188v)
67. Crist fel y Gŵr Gofidus (f. 203v)

Hanes y Llawysgrif

Mae'r gwyliau a enwir yn y Calendr, ynghyd â phresenoldeb y mân-ddarlun o Thomas Sant o Gaergaint (f. 28v), yn dangos yn eglur i'r gwneuthurwr deilwra'r gyfrol ar gyfer prynwr o Loegr. Mae arysgrif o ddechrau'r unfed ganrif ar bymtheg yn y Calendr ar gyfer mis Mawrth (f. 3v) yn cyfeirio at farwolaeth Elizabeth Grey, gwraig Syr John Grey o Blisworth, Swydd Northampton, ac mae'r arfbeisiau a ychwanegwyd ar ymylon y dalennau mewn mannau eraill yn y gyfrol yn gysylltiedig â'r un teulu. Roedd Syr John Grey yn or-ŵyr i Reginald, y trydydd Barwn de Grey o Ruthun, y gŵr y bu i'w elyniaeth ag Owain Glyn Dŵr arwain at wrthryfel. Ni wyddom beth oedd hanes y llawysgrif rhwng dechrau'r unfed ganrif ar bymtheg a diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ym 1895, prynwyd y gyfrol gan Henry Yates Thompson, casglwr llawysgrifau mwyaf ei genhedlaeth o bosibl, a bu'n rhan o'i gasgliad ef (fel MS 27) hyd nes ei werthu gan Sotheby's ar 23 Mawrth 1920, rhif lot 42, a'i brynu gan Miss Gwendoline E. Davies, Gregynog, Powys. Cyflwynodd Miss Margaret S. Davies, Gregynog y gyfrol, ynghyd â 'Llyfr Offeren Sherbrooke' (NLW MS 15536E), i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1951.

Llyfryddiaeth

  • A Descriptive Catalogue of Fifty Manuscripts from the Collection of Henry Yates Thompson (Cambridge, 1898)
  • Christopher De Hamel, A History of Illuminated Manuscripts (London, 1994)
  • Janet Backhouse, Illumination from Books of Hours (London, 2004)

Nadolig 2014
a Chalan 2015

Bydd y Llyfrgell yn cau ddydd Mawrth 23 Rhagfyr am 6yh ac yn ailagor am 9.30yb ddydd Gwener 2 Ionawr.

Nadolig llawen i bawb 

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?