Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Un o'r testunau pwysicaf o waith Geoffrey Chaucer i oroesi yw Peniarth 392D, llawysgrif a adwaenir yn gyffredin wrth yr enw 'Hengwrt Chaucer'. Ystyrir Geoffrey Chaucer (cyn 1346-1400) y mwyaf o feirdd Seisnig yr Oesoedd Canol. Cydnabyddwyd ei athrylith yn ystod ei oes a phrofodd ei waith yn ddylanwadol ar lenyddiaeth Saesneg drwy gydol y bymthegfed ganrif. Ceisiodd llawer ddynwared ei gyfuniad unigryw o hiwmor, realaeth, ei hyfedredd fel bardd a'i reolaeth ar ddialog a chymeriadu dros y canrifoedd, ond methu fu eu hanes. Nodweddir ei waith â hiwmor, sydd weithiau'n hiwmor garw, aflednais, ac y mae ef ei hun yn gyff gwawd yr hiwmor hwnnw o bryd i'w gilydd. Ei orchest fawr yw adrodd stori a chydnabyddir ef yn fyd-eang am ei gamp yn hyn o beth.
Yr enwocaf o'i weithiau yw'r Canterbury Tales, sef casgliad anorffenedig o straeon neu chwedlau a adroddir gan grŵp o gymeriadau sydd yn cyd-deithio ar bererindod at feddrod Thomas Becket yng Nghaer-gaint. Disgrifir y deg pererin ar hugain mewn prolog cyffredinol lle cyflwynir fframwaith y gwaith, sef bod disgwyl i bob pererin adrodd dau hanesyn ar y ffordd yno a dau hanesyn arall ar y ffordd yn ôl, gyda'r chwedleuwr gorau yn ennill ei swper yn rhad ac am ddim. Corff y gwaith yw dau ddwsin o chwedlau sy'n cynnwys dwy a adroddir gan Chaucer ei hunan. Mae'r cyfan yn cydblethu'n effeithiol i greu drama gymdeithasol sy'n arbennig o fywiog ac amryliw.
Y mae'r 'Hengwrt Chaucer' (llawysgrif Peniarth 392D) yn un o brif drysorau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac un sy'n enwog iawn y tu allan i Gymru hefyd. Mae cysylltiadau Cymreig y llawysgrif gynnar a phwysig hon o'r Canterbury Tales yn adlewyrchu patrwm cyffredin iawn yn hanes diwylliannol Cymru. O'r Oesoedd Canol diweddar ymlaen, cafodd llawysgrifau Saesneg eu darllen, eu casglu, eu copïo a'u trysori yng Nghymru, ac erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg ceir tystiolaeth yn aml fod llawysgrifau Saesneg ym meddiant Cymry. Enghraifft nodweddiadol yw llawysgrif LlGC 21242C, sy'n cynnwys The Life of Our Lady gan Lydgate, a gopïwyd tua chanol y bymthegfed ganrif ac yr oedd Cymro yn berchen arni erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg.
Yn achos yr 'Hengwrt Chaucer', dengys ychwanegiadau i'r gyfrol ei bod hi ar y Gororau erbyn yr unfed ganrif ar bymtheg, ym meddiant Fouke Dutton, brethynnwr o Gaer, mae'n debyg, a fu farw ym 1558. Erbyn y 1570au cysylltir y llawysgrif â'r teulu Banestar neu Bannester, hwythau'n gysylltiedig ag ardal Caer, eithr ganed y tri phlentyn ieuengaf yn Llanfair-is-gaer ger Caernarfon. Cyfeiria nodyn arall, dyddiedig 1625, at Andrew Brereton, eto o Lanfair-is-gaer, a fu farw ym 1649. Oddi yno y daeth y llawysgrif i lyfrgell enwog Robert Vaughan (c. 1592-1667), Hengwrt, Meirionnydd. Yn Hengwrt y bu ei gasgliad ef tan 1859 pryd y daeth, trwy gymynrodd, i feddiant W. W. E. Wynne o Beniarth, a werthodd y llawysgrifau i Syr John Williams ym 1904. Bum mlynedd yn ddiweddarach cyflwynodd yntau lawysgrifau Peniarth, gan gynnwys rhai Hengwrt, yn rhodd i'r Llyfrgell Genedlaethol a oedd newydd ei sefydlu. Bu'r 'Hengwrt Chaucer' yn un o brif drysorau'r Llyfrgell fyth ers hynny.
Y cwbl sy'n weddill o lawysgrif gynnar arall o'r Canterbury Tales yw'r tair dalen a elwir 'Dernyn Merthyr' (llawysgrif LlGC 21972D). Bu'r dail hyn, sy'n cynnwys rhan o'r Nun's Priest's Tale, yng Nghymru ers o leiaf y ddeunawfed ganrif, wedi eu cadw mewn copi o eiriadur Dr John Davies, Mallwyd, Antiquae Linguae Britannicae Dictionarium Duplex (1632). O'r llawysgrifau eraill yng nghasgliadau'r Llyfrgell sydd yn cynnwys gwaith Chaucer, mae tri chopi o'r Tretyse on the Astrolabe ac iddynt gysylltiadau cynnar Cymreig, sef llawysgrifau Peniarth 359, LlGC 3049D ac LlGC 3567B; roedd yr olaf ym meddiant John Edwards o'r Waun, sir Ddinbych, cyn gynhared â 1551. Ceir yma hefyd gopi o'r bymthegfed ganrif o gyfieithiad Saesneg Chaucer o De Consolatione Philosophiæ Boethius (llawysgrif Peniarth 393D), a oedd yn sir Gaernarfon erbyn y 1730au.
Yn 1979 fe gyhoeddwyd cyfrol sy'n cynnwys copi ffacsimili du a gwyn o lawysgrif Peniarth 392 ynghyd ag adysgrif printiedig a nodiadau gan Wasg Prifysgol Oklahoma. Bellach mae modd prynu CD-Rom o'r llawysgrif bwysig hon a baratowyd ar y cyd gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a'r Canterbury Tales Project sy'n gysylltiedig â Phrifysgol De Montfort, Caerlŷr, ac a gyhoeddwyd gan Scholarly Digital Editions ym mis Mawrth 2001. Mae'r CD-Rom yn cynnwys lluniau digidol lliw o holl ddalennau a chloriau'r 'Hengwrt Chaucer' a 'Dernyn Merthyr' o ansawdd uchel (225 dpi), adysgrif o'r holl destun a'r glosau ynghyd â choladiad gair wrth air o destunau Hengwrt ac Ellesmere. Golygwyd y gwaith gan Estelle Stubbs gyda'r Athro Norman Blake a Dr Peter Robinson yn olygyddion cyffredinol. Pris y gwaith yw £90 neu $130 a gellir ei brynu yn y Llyfrgell Genedlaethol neu ei archebu oddi wrth Scholarly Digital Editions, 31 Guildford Road, Caerlŷr, Lloegr LE2 2RD rhif ffôn/ffacs +44 (0) 116 221 4160 Gwefan: www.sd-editions.com. ISBN: 0 9539610 0 1.