Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwyddys bod Thomas Taylor yn werthwr llyfrau, printiau a mapiau yn Llundain rhwng 1670 a 1721. Bu'n gweithio o nifer o gyfeiriadau gwahanol a nodir fel hyn: 'next door to the Beehive on London Bridge', 'at the Hand and Bible in the New Buildings on London Bridge' ac 'at Ye Golden Lyon, over against Serjeants Inn in Fleet Street'.
Bu Taylor hefyd yn gyfrifol am gyhoeddi nifer o fapiau gan gynnwys England exactly described [...] yn 1715 yn cynnwys mapiau o siroedd Lloegr a oedd eisoes wedi'u cyhoeddi yn Maps Epitomiz'd Speed yn 1681 ac mewn gweithiau eraill.
Mae Taylor yn arwyddocaol yng nghyd-destun Cymru am iddo gyhoeddi yn 1718 atlas bychan, The Principality of Wales exactly described [...]. Mae'n debyg mai hwn oedd yr atlas cyntaf yn ymwneud yn gyfan gwbl â Chymru.
Patrwm deilen sydd ar ganol tudalen deitl y gyfrol a border llinell-ddwbl yn ei amgylchynu. Yn wahanol i gynnwys England exactly described [...], ymddengys mai mapiau newydd sydd yn ei atlas Cymreig. Yno disgrifir y deg ohonynt, heb eu rhifo, yn y drefn ganlynol:
Pembrokeshire with its hundreds 1718
A new mapp of Carmarthenshire with its hundreds by Tho: Taylor 1718
A new mapp of Glamorganshire with its hundreds by Tho: Taylor 1718
Brecknockshire with its hundreds by Tho: Taylor. Radnorshire with its hundreds by Tho: Taylor 1718
Cardiganshire described with its hundreds by Tho: Taylor 1718
A new mapp of Montgomeryshire with its hundreds by Tho: Taylor 1718
A new mapp of Merionethshire described with all its hundreds by Tho: Taylor 1718
Denbighshire by Tho: Taylor. Flintshire by Tho: Taylor 1718
A new mapp of Caernarvonshire by Tho: Taylor 1718
A new mapp of the Isle of Anglesey with its hundreds by Tho: Taylor 1718
Unig addurn y mapiau, ar wahân i rai sir Benfro a sir Feirionnydd, yw'r cartouche sy'n dal y teitl a'r dyddiad. Cyflwyniad i Syr John Philipps o Gastell Pictwn, ger Hwlffordd, sydd gan Taylor yn y cartouche addurnol ar fap sir Benfro, yr unig un o'r mapiau sy'n cynnwys cyflwyniad o'r fath.
Ar yr un raddfa, fwy neu lai, y lluniwyd pob un o'r mapiau, tua 1 fodfedd i 7 milltir, neu 1:443520. Ceir ar bob map far graddfa 10 milltir, yr argraffnod "Sold by Tho: Taylor at the Golden Lyon in Fleet Street", a'r dyddiad 1718. Maint pob map, oddi mewn i'w forder plaen llinell-ddwbl, yw 18 x 25 cm, ac y mae wedi'i argraffu ar draws dwy ddalen heb ddim y tu cefn iddynt. Un sir, fel arfer, ynghyd ag ychydig fanylion anghyflawn y siroedd cyfagos, a welir ar fap unigol; ond rhoddwyd siroedd Brycheiniog a Maesyfed gyda'i gilydd ar yr un map, a siroedd Dinbych a'r Fflint yr un modd. Ni cheir map o sir Fynwy yn yr atlas hwn o gwbl, oherwydd, yn ôl traddodiad yr oes honno, ystyrid hi yn rhan o Loegr.
Cynrychiolir mynydd a bryn gan 'dwmpath' darluniadol. Ysgythrwyd y prif afonydd, a'u henwi weithiau. Dangosir lleoliad y trefi a'r prif bentrefi, a'u henwau. Ar y rhan fwyaf o'r mapiau dangosir y cantrefi hefyd, ynghyd â rhestr o'u henwau; ond nid ydynt yn ymddangos ar fap sir Gaernarfon na siroedd Dinbych a'r Fflint. Nodir cestyll, priffyrdd, pellteroedd yn ôl arolwg Ogilby, a rhosyn cwmpawd ar bob un o'r mapiau.