Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Trafnidiaeth


Llongau, harbwr Abertawe, tua 1845
Llongau, harbwr Abertawe, tua 1845

Ers dyddiau cynharaf ffotograffiaeth mae dulliau teithio wedi bod yn destun sy’n ysbrydoli ffotograffwyr.

 

 

Ffotograffau cludiant cynnar

 

Ymysg rhai o’r ffotograffau cynharaf a dynnwyd yng Nghymru roedd rhai o  longau hwylio yn nociau Abertawe gan Calvert Richard Jones [create link]. Fel gyda’r rhan fwyaf o ffotograffwyr cynnar a drodd eu golygon at longau, cafodd ei ffotograffau eu tynnu ar lanw isel pan oedd y llongau wedi suddo yn gadarn i fwd yr harbwr. Roedd amserau datguddio yn rhy hir i allu ystyried llong yn siglo o’r naill ochr i’r llall ar y dŵr.

 

 

Injan y Great Western Railway 'Tay', tua 1875
Injan y Great Western Railway 'Tay', tua 1875

Mae eitemau nodedig eraill yn y casgliad yn cynnwys albymau yn arbennig ar gyfer dociau ym Mhort Talbot ac Abertawe, a golygfeydd o longau hwylio ar hyd arfordir Sir Feirionydd.

 

 

Ffotograffau rheilffyrdd

 

Mae rheilffyrdd yn thema barhaol ymysg ffotograffwyr. Gellir canfod ffotograffau rheilffyrdd ymysg casgliadau Geoff Charles, D C Harries a John Thomas ymhlith eraill.

 

Mae’r 20 print sydd i’w canfod yn albwm lluniau 5 o natur ychydig yn wahanol. Daeth yr albwm hwn o lyfrgell gŵr a ymddiddorai mewn rheilffyrdd, sef Sir Henry Owen Philipps Scourfield, Bart., o Williamston, Sir Benfro. Mae’r albwm yn dyddio o’r 1870au. Mae pob ffotograff yn dangos injan stêm wahanol, a oedd yn eiddo i un o’r nifer o gwmnïau rheilffordd Fictorianaidd.

 

 

Fan ddosbarthu a gyrrwr "Queen Bee, floor, boot and metal polishes" tua 1925
Fan ddosbarthu a gyrrwr "Queen Bee, floor, boot and metal polishes" tua 1925

Mae treftadaeth gyfoethog Cymru o reilffyrdd cul hefyd wedi derbyn ei siâr o sylw, yn arbennig felly yng ngwaith Brian Renders ar Reilffordd Ffestiniog. Tynnodd Arthur Lewis, y ffotograffydd o Aberystwyth, sawl ffotograff da o Reilffordd Cwm Rheidol.

 

 

Ffotograffau moduro

 

Mae esblygiad cyflym y cerbyd modur yn yr 20fed ganrif hefyd yn cael ei  gofnodi’n fanwl drwy’r casgliad i gyd. Roedd tripiau siarabáng a cheir cynnar yn cael eu tynnu’n aml gan ffotograffwyr amatur a phroffesiynol fel ei gilydd. Mae llawer o’r rhain yn cynnwys sawl gwneuthuriad a model sydd wedi mynd yn angof erbyn heddiw.

 

 

Olion car Leveque, Le Mans, 1955
Olion car Leveque, Le Mans, 1955

Mae cartref teuluol Charles Rolls, un hanner o Rolls-Royce, yn Hendre, Sir Fynwy. Mae’r tŷ a’r teulu yn destun nifer o albymau ffotograff yn y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig.

 

Trwy gydol yr 1950au a’r 1960au bu Geoff Charles yn gweithredu fel gohebydd moduro Y Cymro, gan brofi a thynnu lluniau nifer helaeth o geir. Ei ddiddordeb mewn moduro a’i arweiniodd ef i fynychu ras 24 awr Le Mans yn 1955. Tra oedd Geoff y tu allan yn nôl rhywbeth i’w yfed bu Mercedes Pierre Leveque mewn gwrthdrawiad ac fe ffrwydrodd. Cafodd 77 eu lladd i gyd. Mae’r ffotograffau a ddeilliodd o hyn ymysg y rhai mwyaf dirdynnol sydd ganddo.

 

 

 

Henry Richman a Dick Merrill o flaen eu hawyren "Lady of Peace", Llandeilo, 1936
Henry Richman a Dick Merrill o flaen eu hawyren "Lady of Peace", Llandeilo, 1936

Ffotograffau awyrennau

 

Mae Cludiant Awyrennol wedi bod yn nodwedd lai amlwg o fywyd Cymru ond y mae serch hynny yn dal i gael ei adlewyrchu yn y casgliad. Roedd balwnau aer cynnes weithiau i’w gweld ym mlynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf, er mai dim ond yn yr 1910au y byddai awyrennau yn dwyn cyrch ar Gymru. Un digwyddiad nodedig oedd ymddangosiad annisgwyl y Vultee V-1 ‘Lady Peace’ ger Llandeilo yn 1936. Creodd hyn gynnwrf rhyngwladol gan fod yr awyren newydd dorri record newydd - 18 awr a 36 munud ar gyfer taith trawsatlantig.

 

 

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 16-03-2010