Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Collections

Casgliadau

Traul


Gellir osgoi llawer o'r difrod a ddaw i ran llyfrau ac eitemau eraill drwy eu trin a'u trafod yn ofalus.

 

Y ffordd anghywir i dynnu llyfr oddi ar silff
Y ffordd anghywir i dynnu llyfr oddi ar silff

Mae’r modd y mae staff a darllenwyr yn defnyddio eitemau’r Llyfrgell yn effeithio ar gyflwr y casgliadau. Trwy gam-drin (anfwriadol) parhaus, gellir dinistrio llyfr, ffotograff neu fap ayb. Oherwydd hyn, mae codi ymwybyddiaeth o faterion cadwraethol yn rhan bwysig o waith isadran Gofal Casgliadau'r Llyfrgell.

 

 

Canllawiau i leihau effaith traul

 

Ni ddylid byth tynnu llyfr o'r silff gerfydd top y meingefn. Bydd hyn yn siŵr o arwain at dynnu'r meingefn yn rhydd, yn enwedig os yw deunydd y llyfr wedi breuo ac os yw'r llyfrau wedi eu gosod at ei gilydd yn rhy dynn.

 

 

Y ffordd gywir i dynnu llyfr oddi ar silff
Y ffordd gywir i dynnu llyfr oddi ar silff

Er mwyn cael gafael ar lyfr sydd ar silff, dylid gwthio'r ddau lyfr sydd o’i boptu i gefn y silff a chydio yng nghanol y llyfr dan sylw heb roi straen ar y meingefn. Unwaith bydd y llyfr yn eich dwylo rhaid cofio troi'r tudalennau'n ofalus a chynnal y llyfr mewn modd nad yw'n rhoi straen ar y rhwymiad. Gyda chyfrol hynafol a bregus, dylid defnyddio crud llyfrau i’w chynnal.

 

Yn ogystal â denu pryfed a llygod, gall bwyd a diod wneud difrod i lyfrau, fel yn amlwg y gall dwylo budron. Gall bysedd glân yr olwg lygru a staenio eitemau drwy ryddhau asidau brasterog (fatty acids), ac o'r herwydd, gyda chyfrolau prin, darluniau, ac yn enwedig ffotograffau, dylid gwisgo menyg cotwm i atal mwy fyth o ddifrod.

 

Mae blwch o ansawdd cadwraethol yn fodd i warchod llyfr rhag breuo oherwydd effaith goleuni. Mae’n creu hinsawdd fwy sefydlog i’r llyfr, ac yn fodd i’w warchod rhag cael ei ddifrodi’n ddamweiniol.

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 09-06-2009