Logo Llyfrgell Genedlaethol Cymru The National Library of Wales Aberystwyth

Digital Mirror

Drych Digidol

Archif Gwefannau Cymru

 

Cefndir

 

Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw cof y genedl. Yn draddodiadol mae wedi casglu, cadw, diogelu a darparu mynediad i ystod eang o fformatau megis llyfrau, cyfnodolion, papurau newydd, llawysgrifau ac archifau, mapiau, paentiadau, darluniau a phrintiau, ffotograffau, sain a delweddau symudol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae cyfryngau electronig wedi ffurfio canran cynyddol o'r deunydd a dderbynnir gan y Llyfrgell, a rydym yn awr yn wynebu'r her enfawr o sut i ddiogelu cof digidol Cymru. I'r perwyl hwn lluniwyd Polisi a Strategaeth Cadwedigaeth Ddigidol y Llyfrgell yn 2008.

O ganlyniad i'r twf aruthrol yn nefnydd y Rhyngrwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae mwy a mwy o ddeunydd yn ymddangos ar y We Fyd-eang, gyda rhai 'cyhoeddiadau' yn ymddangos mewn ffurf rithwir ac yn aml am gyfnod byr yn unig. Mae'n angenrheidiol felly ein bod yn cymryd camau heddiw i sicrhau y byddwn yn medru gweld a darllen y gwefannau hyn mewn blynyddoedd i ddod. Sefydlwyd cynllun peilot Archif Gwefannau Cymru er mwyn edrych ar y ffordd orau i greu a chynnal archif o ddeunyddiau ar y we o ddiddordeb Cymreig a chynnig mynediad iddynt.

 

Cynllun peilot Archif Gwefannau Cymru

 

Dechreuodd y prosiect ym Mehefin 2003 a bydd yn rhedeg am flwyddyn yn y lle cyntaf. Byddwn yn gweithredu'r hyn a ddysgir yn ystod y prosiect ym mhrosesau gwaith y Llyfrgell yn y dyfodol. Mae'r Llyfrgell hefyd yn cydweithio รข phartneriaid megis y Llyfrgell Brydeinig, JISC ac Ymddiriedolaeth Wellcome, ar gynllun Prydeinig i archifo deunydd ar y We.

 

Nod y prosiect

 

  • Dewis a chasglu sampl gynrychioladol o 100 gwefan, a datblygu dulliau gweithredu ar gyfer dewis, casglu, disgrifio, cadwedigaeth a darparu mynediad.

 

 

Rhai o amcanion y prosiect:

 

  • Dewis 100 gwefan o ddiddordeb Cymreig a datblygu meini prawf ar gyfer dewis
  • Casglu gwefannau gan ddefnyddio meddalwedd priodol
  • Disgrifio'r gwefannau hyn gan ddefnyddio safonau priodol
  • Creu metadata ar gyfer cadwedigaeth tymor hir
  • Datblygu prosesau llif gwaith
  • Gwerthuso meddalwedd casglu gwefannau
  • Dogfennu casgliadau'r prosiect
  • Cydweithio fel partner ym mhrosiect UK Web Archive
  • Cydweithio a chydweithredu ag unigolion a sefydliadau sy'n weithgar ym maes cadwedigaeth ddigidol

Am fwy o wybodaeth ebostiwch ukwac@llgc.org.uk.

 

 

Cysylltiadau defnyddiol

 

Archifo gwefannau

PANDORA
Preserving and Accessing Networked Documentary Resources of Australia. Archif o ddeunyddiau'r Rhyngrwyd yn Llyfrgell Genedlaethol Awstralia.
http://pandora.nla.gov.au/index.html

Internet Archive
Llyfrgell ddigidol o safleoedd ar y Rhyngrwyd ers Hydref 1996.
http://www.archive.org/index.php

Collecting and preserving the World Wide Web: A feasibility study undertaken for the JISC and Wellcome Trust.
http://www.jisc.ac.uk/uploaded_documents/archiving_feasibility.pdf

Legal issues relating to the archiving of Internet resources in the UK, EU, USA and Australia: A study undertaken for the JISC and Wellcome Trust.
http://www.jisc.ac.uk/uploaded_documents/archiving_legal.pdf

 

 

Cadwedigaeth ddigidol

 

Polisi a strategaeth cadwedigaeth ddigidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru
http://www.llgc.org.uk/adrodd/polisi_cad_digidol.pdf

Digital Preservation Coalition
Cynghrair a sefydlwyd yn 2001 i sicrhau cadwedigaeth adnoddau digidol yn y DU, ac i gydweithio ag eraill yn rhyngwladol er mwyn diogelu ein cof digidol byd-eang.
http://www.dpconline.org/graphics/

PADI
Preserving Access to Digital Information - adnodd a sefydlwyd gan Lyfrgell Genedlaethol Awstralia i sicrhau mynedfa destunol i adnoddau cadwedigaeth ddigidol.
http://www.nla.gov.au/padi/index.html

RLG and Preservation: Long-term Retention of Digital Research Materials
Menter yr RLG ar gadwedigaeth ddigidol.
http://www.rlg.org/longterm/

Hawlfraint © Llyfrgell Genedlaethol Cymru / The National Library of Wales 2007-2011

Diweddarwyd: 01-06-2009