Cefnogwch ni i ddatblygu ein casgliadau a'n gwasanaethau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Yn gyffredinol adwaenir Williams Pantycelyn fel prif emynydd Cymru. Ond yr oedd hefyd yn un o arweinwyr allweddol Methodistiaeth gynnar yn ein gwlad ac hefyd yn fardd ac awdur rhyddiaith o fri. Fe'i ystyrir heddiw yn un o'n prif lenorion.
Ganed William yn 1717 yng Nghefn-coed ym mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, sir Gaerfyrddin. Fe'i addysgwyd yn lleol gyda'r bwriad o ddilyn gyrfa fel meddyg. Newidiodd hyn pan gafodd dröedigaeth wrth wrando ar y diwygiwr efengylaidd Howel Harris (1714-73) yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Cymerodd urddau diacon yn 1740 a'i benodi'n gurad i Theophilus Evans (1693-1767) ym mhlwyfi Llanwrtyd, Llanfihangel Abergwesyn a Llanddewi Abergwesyn . Ond oherwydd ei weithgaredd Methodistaidd gwrthodwyd urddau offeiriad iddo ac o hynny allan ymroes yn gyfan gwbl i'r mudiad gan deithio'r wlad yn pregethu ac yn sefydlu seiadau. Bu farw yn 1791.
Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o emynau, Aleluia yn 1744 a pharhaodd i gyhoeddi cyfrolau o emynau yn Gymraeg a Saesneg nes diwedd yr 1780au. Er bod ei gynnyrch yn anwastad, ystyrir Pantycelyn fel emynydd pwysicaf Cymru am gyfoeth symbolaidd ac uniongyrchedd ei waith gorau. Yn ogystal â'i emynau, cyfansoddodd gerddi hir a chyfrolau o farddoniaeth byrrach. Trodd ei law at ryddiaith hefyd er mwyn hyrwyddo tyfiant ysbrydol ei gyd-Fethodistiaid ac erbyn ei farwolaeth yr oedd wedi cyhoeddi bron i naw deg o lyfrau a phamffledi.
Llawysgrif o farddoniaeth yn llaw William Williams Pantycelyn yw NLW MS 77A. Nid yw ei dyddiad yn hysbys.