Yr oedd Thomas Jones, a adwaenir yn draddodiadol fel Thomas Jones Pencerrig, yn arlunydd tirluniau Cymreig o gryn dalent a dyfeisgarwch. Y mae'n fwyaf enwog fel artist y tirlun cyffredin, tirluniau tebyg i'r rhai o gwmpas cartref y teulu, neu'r waliau gwyngalch gwag disglair eu lliw gyferbyn â'i stiwdio yn Napoli.
Gŵr o ysbryd eithriadol ydoedd a lwyddai i gyfuno tuedd foesol ddofn gydag agwedd y meddyliwr annibynnol at fywyd. Gellid ystyried ei fywyd yn gymysgfa fawr o obeithion a chwalwyd ynghyd ag asesiad realistig o'i orchestion personol. Yr oedd yn arlunydd poblogaidd a thalentog, un a lwyddai i hudo noddwyr, ond un hefyd a oedd yn methu â dyfalbarhau gyda'r agweddau llwyddiannus ar ei gelfyddyd. Yn 1787, pan oedd ei gyfoeswyr yn cael eu gorfodi i dderbyn gwaith engrafio dienaid, yn gorfod troi at ddysgu neu'n derbyn comisiynau undonog, fe etifeddodd Thomas Jones stad y teulu ac o ganlyniad ei flynyddoedd olaf oedd y rhai mwyaf creadigol o'r safbwynt artistig.
Yr arddangosfa
Mae'r arddangosfa rithwir hon yn nodi daucanmlwyddiant marwolaeth Thomas Jones tra, ar yr un pryd, yn cydnabod cymynrodd bwysig iawn a wnaed gan Mrs J. Evan-Thomas yn cynnwys yr Atgofion, llyfr cyfrifon, llyfr lluniadu'r Hafod a lluniau dyfrlliw a dynnwyd ganddo ym Mhencerrig a'r ardal gyfagos. Cynhwysir gwybodaeth a delweddau o holl wrthrychau'r gymynrodd yn ogystal â chwe darlun o dde Cymru a llawysgrif y dyddlyfr Eidalaidd sydd ar gadw ar hyn o bryd yn Archifdy Sir Powys.
I weld y llawysgrif neu'r llun perthnasol, cliciwch ar yr eicon
I weld yr adysgrif perthnasol, cliciwch ar yr eicon