![]() |
|
![]() |
Bywyd cynnarGanwyd Thomas Jones yn Llandrindod ar yr union adeg y dechreuwyd poblogeiddio'r ffynhonnau yno fel cyrchfan iachusol ar gyfer trigolion lluddedig y trefi poblog. Symudodd ei deulu o Landrindod i stad gymharol neilltuedig Pencerrig, ychydig filltiroedd o Lanfair-ym-Muallt.Yr oedd ei deulu yn Ymneilltuwyr amlwg a fu'n gyfrifol am godi a chynnal capel bychan Cae-bach yn Llandrindod sydd ar gael hyd heddiw yn gymuned fywiog o addolwyr. Addysgwyd y Thomas ieuanc gan weinidog anghydffurfiol cyn cofrestru yng Ngholeg Crist, Aberhonddu. Wedi cyfnod yn Aberhonddu ymaelododd yn fyfyriwr cyffredin yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, yn 1759. Bu'r ddwy flynedd a dreuliodd yno yn fodd i gadarnhau ei uchelgais o fod yn arlunydd yn hytrach na bod yn ŵr eglwysig neu'n ysgolhaig. Yn ffodus iawn, fe adnabu tad Thomas Jones dalent a diddordeb ei fab mewn celfyddyd. Profodd y gefnogaeth honno yn hanfodol iddo yn ystod ei ddatblygiad cynnar ac ar gyfer ei yrfa yn Llundain. |
|