----> Llyfr lluniadu Chwe Golygfa o Dde Cymru Dyfrlliwiau Gweld y Llawysgrif - Lluniau

Llyfr Lluniadu'r Hafod


Yn y llyfr lluniadu bach hwn ceir yr hyn sy'n weddill o ymweliad Thomas Jones â'r Hafod yn 1786. Mae'n cynnwys hefyd rai tirluniau ym Maesyfed a grŵp o luniadau a dynnwyd ym Mhencerrig yn 1792.

Mae lluniadau'r Hafod yn arbennig o ddiddorol oherwydd eu bod yn canolbwyntio'n unig ar y tiroedd a'r coedwigoedd heb gynnwys unrhyw olygfeydd o'r tŷ a'r gerddi. Yn 1807 ychydig cyn y tân trychinebus yn yr Hafod, cyhoeddodd Gwasg yr Hafod gatalog un ddalen o'r casgliad celf a oedd yno. Cofnodir yno fod pedwar llun bach o diroedd yr Hafod o waith Thomas Jones yn hongian yn y fynedfa i Lyfrgell Pesaro. Yr oedd y lluniau hynny ymhlith y gweithiau niferus a ddinistriwyd gan y tân ac y mae'n arwyddocaol fod Johnes wedi nodi eu bod o'r tiroedd yn unig.

JW Smith - Yr Hafod
Yn y lluniadau ceir nodiadau llaw-fer Thomas Jones mewn pensel ar gyfer creu gweithiau gorffenedig effeithiol ond syml. Gallai gynhyrchu gweithiau cyflawn ar raddfa fawr oddi wrth y lluniadau hyn heb unrhyw angen cyfeirio'n ôl at y tirlun. Mae ei sylwgarwch, yn enwedig yn achos coed, yn ddigymar yn nhirluniau Cymru'r cyfnod. Llwydda i gyfuno cariad amlwg at y tirlun naturiol gyda dull soffistigedig iawn o dynnu llun.

Mae'r llyfr lluniadu yn enghraifft o ddawn Thomas Jones i ddod â thirlun pur yn fyw heb fod iddo unrhyw gysylltiadau hanesyddol. Gallai gyflawni'r weledigaeth fawr, neu dirluniau fel y'u dangosid yn ei brintiau gyda'r dull uniongyrchol o ddarlunio harddwch gan ddefnyddio natur ei hun yn wrthrych.

Hen dderwen - Hafod Llyfr Lluniadu - Hafod
Hen dderwen - Pencerrig Llyfr Lluniadu - Pencerrig


Mae'r tudalennau yma yng ngofal Swyddog y We
These pages are maintained by the Web Officer
© LlGC/NLW 2003.