Rhagymadrodd
Fel llawer o artistiaid, gadawodd Thomas Jones ddeunydd ysgrifenedig yn ogystal â darluniau. Er nad oes archif sylweddol o'i eiddo, cadwyd tair llawysgrif bwysig, sef cyfrol o'i Atgofion a dau lyfr cownt; cyflwynir y tair yn yr arddangosfa hon. Trwy gymynrodd hael y ddiweddar Mrs Jane Evan-Thomas y daeth yr Atgofion ac un llyfr cownt i'r Llyfrgell Genedlaethol yng Ngorffennaf 2000, tra bod 'Llyfr cownt yr Eidal', fel y'i gelwir, yn dal mewn dwylo preifat ac fe'i atgynhyrchir yma drwy ganiatâd caredig y perchennog. Diogelwyd deunydd perthynol mewn casgliadau eraill yn y Llyfrgell, yn enwedig yn archifau ystad Pencerrig, gan gynnwys llawysgrif y cyfeiria Jones ati yn ei Atgofion (ff. 23-4), sydd yn adrodd mewn dull bwrlésg hanes taith gan yr arlunydd i Calais ym 1767.
Mae'r tair llawysgrif a gyflwynir yma yn gloddfa wych o wybodaeth am fywyd yr arlunydd, gan amlaf yn ei arddull ddihafal, atyniadol ei hun. Hanes y cyfnod a dreuliodd yn yr Eidal rhwng 1776 a 1783 sydd yn yr Atgofion a'r llyfr cownt Eidalaidd, ond hefyd gwybodaeth am ei fywyd ar ôl iddo ddychwelyd i Bencerrig lle bu'n byw fel sgweiar yr ardal tan ei farwolaeth. Gwybodaeth am y blynyddoedd 1788 hyd 1797 a geir yn yr ail lyfr cownt.