Coleg y Brifysgol
Singleton
Abertawe
Fore Sul a gwyl Ddewi
1925.

Annwyl Mr Jones,
Yn gyntaf gedwch i mi ddiolch i chi am eich llythyr a chydnabod ei bwysiced. Yr wyf yn cytuno hefyd a hyn, bod yn ddyled arnaf i ymuno a'ch mudiad chi os gallaf heb ymwadu â'm hegwyddorion. Oblegid y mae llwyddiant Cymru heddyw yn gofyn am undeb, - ond y mae'n gofyn hefyd bod amodau yr undeb hwnnw yn rhai diogel ac yn sylfaen y gellir adeiladu'n gadarn arni.

Felly:-
1. Gorfodi'r Gymraeg: Hynny yw bod gorfod ar bob awdurdod lleol yng Nghymru drafod yr holl fusnes yn yr iaith Gymraeg, a bod yn rhaid i bob gwas a swyddog dan yr awdurdod sy'n ymwneud â chofnodion, ystadegau, rheolau, etc yr awdurdod, ddefnyddio'r Gymraeg. Bod Cymraeg hefyd yn iaith addysg, hynny yw yn gyfrwng addysg yn holl ysgolion Cymru.

(17K)

Llythyr gan Saunders Lewis at H. R. Jones, 1 Mawrth 1925, yn datgan ei barodrwydd i ymuno â Phlaid Genedlaethol Cymru, ond yn gosod amodau.   Yn ôl
Letter from Saunders Lewis to H. R. Jones, 1 March 1925, declaring his willlingness to join the Welsh Nationalist Party on certain conditions.   Back
Carta de Saunders Lewis a H. R. Jones, del 1 de marzo de 1925, declarando su buena disposición a unirse al Partido Nacionalista Galés bajo ciertas condiciones.   Volver

Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau / Department of Manuscripts and Records

Archif Plaid Cymru B2