Os dyna'r ystyr a rowch chi i'r arwyddair "Gorfodi'r Gymraeg", yr wyf i yn llwyr unfryd â chi. Ond nid gorfodi'r Gymraeg yw ei rhoi ar yr un tir neu'n gydradd a Saesneg. Nage, ond gorfodi y Gymraeg yn unig.

2. "Torri cysylltiad a phob plaid wleidyddol arall yng Nghymru a Lloegr."

Yr wyf yn llwyr gytuno â hynny. Ond nid yw hynny'n ddigon. Ac y mae arnaf ofn y cyfyd anhawster yma, oblegid yma y mae fy argyhoeddiadau i yn taro yn erbyn eich polisi hyd y gwelaf, - wrth gwrs, barnu wrth eich llythyr yn unig y gallaf eto. Fy meddwl cadarn i yw hyn - rhaid torri pob cysylltiad hefyd â Senedd Loegr. Y mae hynny yn anhepgor er mwyn llwyddiant ein hamcan. Rhaid i blaid genedlaethol weithio yng Nghymru, drwy'r awdurdodau lleol; troi Cymru yn Gymreig drwyddynt hwy, a gadael llonydd i Senedd Loegr, boycotio'r senedd, ac felly wneud Cymru Gymreig yn ffaith. Yna, heb frwydro mwy, ond o wir angenrheidrwydd, bydd yn rhaid i'r llywodraeth ar Gymru fod yn Gymreig hefyd. Ni ddaw dim i Gymru...

(17K)

Llythyr gan Saunders Lewis at H. R. Jones, 1 Mawrth 1925, yn datgan ei barodrwydd i ymuno â Phlaid Genedlaethol Cymru, ond yn gosod amodau.   Yn ôl
Letter from Saunders Lewis to H. R. Jones, 1 March 1925, declaring his willlingness to join the Welsh Nationalist Party on certain conditions.   Back
Carta de Saunders Lewis a H. R. Jones, del 1 de marzo de 1925, declarando su buena disposición a unirse al Partido Nacionalista Galés bajo ciertas condiciones.   Volver

Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau / Department of Manuscripts and Records

Archif Plaid Cymru B2