|
Datgysylltu'r Eglwys, Cymru Fydd a Phlaid Cymru |
| Yn ystod ail hanner y 19fed Ganrif gwelwyd adfywiad cenedlaethol yng Nghymru. Ffurfiwyd mudiadau cenedlaetholgar a sefydlwyd Prifysgol Cymru. Yn y byd gwleidyddol brwydrai rhai Rhyddfrydwyr a Chenedlaetholwyr am fesurau penodedig i Gymru ac yr oedd sawl gwleidydd amlwg yn dadlau o blaid mesur o hunanlywodraeth. | ![]() |
||||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||||
|
Cafwyd galwadau am Ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru ar ôl sefydlu y Gymdeithas er Rhyddhad yn 1844. Erbyn 1860au'r ganrif roedd yr holl eglwysi anghydffurfiol, o dan arweiniad rhai fel Thomas Gee a Henry Richard, yn ymgyrchu o blaid Datgysylltu'r Eglwys. Aeth achos Datgysylltu gerbron Tŷ'r Cyffredin yn 1870 ond ni chafodd fawr o wrandawiad. |
![]() |
||||||||||||||||||||
![]() |
Tyfodd y galw am Ddatgysylltu wedi Rhyfel y Degwm yn ystod yr 1880au. Cyflwynwyd Mesur Datgysylltu i'r Senedd yn 1894. Cefnogwyd y mesur gan Aelodau Seneddol Rhyddfrydol megis David Lloyd George. | ||||||||||||||||||||
| Cafodd y mesur ailddarlleniad yn 1895 ond daeth y Ceidwadwyr, a wrthwynebai Ddatgysylltu, i rym am ddeng mlynedd. Daeth cyfle eto i'r ymgyrchwyr dros Ddatgysylltu pan enillodd y Rhyddfrydwyr Etholiad Cyffredinol 1906. Aeth mesur o flaen y Tŷ eto yn 1912 a 1913 ac yn 1914 methodd Tŷ'r Arglwyddi â'i rwystro ac fe ddaeth yn ddeddf gwlad. Ym mis Mehefin 1920 daeth y Mesur Datgysylltu i rym yng Nghymru wedi iddo gael ei ohirio oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf. | ![]() |
||||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||||
|
Cymru Fydd Sefydlwyd Mudiad Cymru Fydd yn 1886 gan rai o Gymry Llundain gan gynnwys J. E. Lloyd, O. M. Edwards, T. E. Ellis, Beriah Gwynfe Evans ac Alfred Thomas. Eu prif nod oedd sicrhau hunanlywodraeth i Gymru. Collodd y mudiad ei phlwc wedi ymadawiad T. E. Ellis i ymuno â'r llywodraeth yn 1892 ac wedi i Lloyd George fethu yn ei ymgais i uno Cymru Fydd gydag Undebau Rhyddfrydol De a Gogledd Cymru yn 1896. |
![]() |
||||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||||
|
Wedi methiant Cymru Fydd a llwyddiannau'r Blaid Lafur yn Etholiad Cyffredinol 1922, teimlai rhai bod angen rhyw fath o fudiad i gefnogi'r syniad o hunanlywodraeth a rhoi dyheadau pobl Cymru yn gyntaf. |
![]() |
||||||||||||||||||||
| Sefydlwyd y Blaid Genedlaethol ym Mhwllheli ar 5 Awst 1925 gyda chwech o bobl yn unig yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf sef Lewis Valentine, H. R. Jones, Moses Gruffydd, D. E. Williams, Saunders Lewis a Fred Jones. | |||||||||||||||||||||
|
Dau fudiad yn dod at ei gilydd mewn gwirionedd oedd y Blaid Genedlaethol newydd, sef 'Plaid Genedlaethol Cymru' a oedd wedi ei sefydlu gan genedlaetholwyr megis Lewis Valentine yn y Gogledd, a'r 'Mudiad Cymreig', mudiad cenedlaetholgar cyfrinachol, yn ne Cymru. |
|||||||||||||||||||||
|
Prif nod y blaid newydd o 1930 ymlaen oedd cael statws dominiwn i Gymru. Diflannodd y syniad gwreiddiol o gynnal boicot ar San Steffan ac o dipyn i beth dechreuodd y Blaid Genedlaethol (Plaid Cymru wedi hynny) enwebu ymgeiswyr ar gyfer Etholiadau Seneddol. |
|||||||||||||||||||||
|
|
||||||||||||||||||||
|
|
||
| Datgysylltu'r Eglwys, Cymru Fydd a Phlaid Cymru | ||
| Ymgyrch Senedd i Gymru a'r Swyddfa Gymreig | ||
| Refferenda a Chynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|
|
||
| Top y dudalen | Tudalen Flaen Ymgyrchu! | |