|
Refferenda a Chynulliad Cenedlaethol Cymru |
| Derbyniodd Deddf Datganoli Cymru a'r Alban y sêl frenhinol ar 31 Gorffennaf 1978 a chyhoeddwyd y cynhelid Refferendwm yn y ddwy wlad ar Ddydd Gŵyl Dewi 1979. Yn fuan iawn wedi'r cyhoeddiad yma ffurfiwyd ymgyrch 'Cymru dros Gynulliad' o dan arweinyddiaeth y cyn-Aelod Seneddol Llafur, Elystan Morgan. | ![]() |
||||||||||||||||||||
![]() |
Roedd gan y datganolwyr gefnogaeth swyddogol y Blaid Lafur, y T.U.C, y Blaid Ryddfrydol a Phlaid Cymru, er yn ddelfrydol, byddai Plaid Cymru wedi hoffi gweld Cynulliad mwy grymus. | ||||||||||||||||||||
| Roedd y rhan fwyaf o Geidwadwyr Cymru yn erbyn datganoli ac yr oedd chwech o'r Aelod Seneddol Llafur Cymreig, gan gynnwys Neil Kinnock, hefyd yn gwrthwynebu'r mesur. | ![]() |
||||||||||||||||||||
![]() |
Cynhaliwyd y refferendwm ar 1 Mawrth 1979 yng Nghymru ac yn yr Alban. Yng Nghymru pleidleisiodd 1,199,378 o bobl, sef 58.3% o'r nifer a gâi bleidleisio. |
||||||||||||||||||||
| Dim ond 11.8% o'r etholfraint a bleidleisiodd dros ddatganoli a 46.5% yn erbyn. Syrthiodd y Llywodraeth Lafur yn fuan wedyn ac fe enillodd y Ceidwadwyr, dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher, yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai 1979. |
|
||||||||||||||||||||
![]() |
Bu'r Ceidwadwyr mewn grym am 18 mlynedd, ond ni ddiflannodd y dadleuon o blaid datganoli. Wedi buddugoliaeth ysgubol y Blaid Lafur yn 1997 cyhoeddodd y llywodraeth Bapur Gwyn, Llais dros Gymru, a oedd yn ddisgrifiad manwl o gynigion y blaid ar ddatganoli. | ||||||||||||||||||||
| Ar 18 Medi 1997 cynhaliwyd Refferendwm ar y cynigion. 50.3% yn unig o bobl Cymru a aeth i bleidleisio gyda 552,698 ohonynt yn pleidleisio yn erbyn datganoli a 559,419 o'i blaid, sef mwyafrif o 6,721. | ![]() |
||||||||||||||||||||
![]() |
Cynhaliwyd Etholiadau cyntaf y Cynulliad ar 6 Mai 1999 ac ar 26 Mai fe agorwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn swyddogol ym Mae Caerdydd. | ||||||||||||||||||||
|
|||||||||||||||||||||
|
|
||
| Datgysylltu'r Eglwys, Cymru Fydd a Phlaid Cymru | ||
| Ymgyrch Senedd i Gymru a'r Swyddfa Gymreig | ||
| Refferenda a Chynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|
|
||
| Top y dudalen | Tudalen Flaen Ymgyrchu! | |