|
Ymgyrch Senedd i Gymru a'r Swyddfa Gymreig |
|
Ymgyrch Senedd i Gymru Ffurfiwyd Undeb Cymru Fydd yn 1941 pan benderfynodd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymraeg a Phwyllgor Amddiffyn Diwylliant Cymru i uno. Yr Undeb hwn a drefnodd y gynhadledd yn Llandrindod yn 1950 a roes ddechrau i'r Ymgyrch dros Senedd i Gymru. Megan Lloyd George, AS Rhyddfrydol Môn, oedd llywydd yr Ymgyrch. |
![]() |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
Cyflwynwyd deiseb i'r Senedd yn
1956 gan Goronwy Roberts AS a oedd wedi ei harwyddo gan chwarter miliwn
o bobl, oll yn datgan eu bod o blaid Senedd ddeddfwriaethol, etholedig i Gymru.
|
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| Rhwng 1950 a 1956 dylanwadodd yr ymgyrch yn gryf ar feddylfryd y Cymry, ond nid oedd digon o drefn ar y mudiad ac nid oedd yn apelio at fudiadau llafur yn yr ardaloedd diwydiannol. | ![]() |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
![]() |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Tra y dadleuai rhai o blaid Senedd i Gymru, roedd eraill, yn enwedig Aelodau Seneddol Llafur megis Cledwyn Hughes yn galw am ddatganoli gweinyddol. Erbyn diwedd y 1950au roedd y Blaid Lafur wedi mabwysiadu polisi a olygai sefydlu Swyddfa Gymreig dan ofal Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, a fyddai'n aelod o'r Cabinet. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
Yn dilyn buddugoliaeth y Blaid Lafur yn Etholiad Cyffredinol 1964, penodwyd James Griffiths, AS Llanelli er 1936, yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru. Ymysg ei gyfrifoldebau roedd dai, llywodraeth leol a ffyrdd. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Yn 1969 sefydlwyd Comisiwn Brenhinol o dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Crowther (yn ddiweddarach yr Arglwydd Kilbrandon) i argymell newidiadau cyfansoddiadol. Prif dasg y Comisiwn oedd ystyried llywodraeth ddatganoledig i Gymru a'r Alban. Argymhelliad yr adroddiad yn 1973 oedd y dylid sefydlu Cynulliad deddfwriaethol yn yr Alban a Chynulliad i Gymru a oedd yn llai pwerus. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
Daeth sefydlu Senedd yn yr Alban a Chynulliad yng Nghymru yn un o brif bolisiau'r llywodraeth Lafur a ddaeth i rym yn 1974. Llwyddwyd i basio'r Mesur Datganoli er bod mwyafrif y Llywodraeth yn Nhŷr Cyffredin yn fregus, a bod gwrthwynebiad ffyrnig oddi wrth rhai Aelodau Seneddol Llafur i'r mesur a gyflwynwyd. Fodd bynnag, ni fyddai'r Mesur yn dod i rym heb sêl bendith etholwyr yr Alban a Chymru trwy refferendwm. | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
Ysgrifenyddion Gwladol Cymru
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
|
||
| Datgysylltu'r Eglwys, Cymru Fydd a Phlaid Cymru | ||
| Ymgyrch Senedd i Gymru a'r Swyddfa Gymreig | ||
| Refferenda a Chynulliad Cenedlaethol Cymru | ||
|
|
||
| Top y dudalen | Tudalen Flaen Ymgyrchu! | |