|
Clywedog |
|
Yn nyffryn Clywedog ger Llanidloes, Powys, adeiladwyd cronfa ddŵr er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Birmingham. Ar 31 Gorffennaf 1963 cafodd Mesur Clywedog ei wneud yn ddeddf gwlad gyda sêl y frenhines, ac fe ddechreuodd y gwaith adeiladu. Wrth foddi dyffryn Clywedog byddai 615 acer o dir amaethyddol yn cael ei golli a thair fferm yn cael eu boddi. Tyfodd gwrthwynebiad ymhlith trigolion lleol i'r cynllun i adeiladu cronfa ddŵr yn y dyffryn. Arweiniwyd yr ymgyrch yn erbyn boddi Clywedog gan aelodau o Blaid Cymru. Yn Ebrill 1963 cyfarfu is-bwyllgor Clywedog am y tro cyntaf i drafod sut yr oedd modd achub y dyffryn. Roedd y pwyllgor yn cynnwys J. W. Meredydd, Arthur Thomas, Islwyn Ffowc Ellis, Elystan Morgan ac Elwyn Roberts. |
![]() |
|
Penderfynodd Pwyllgor Gwaith Plaid Cymru gymryd prydles ar 2.6 acer o dir yn nyffryn Clywedog am bum mlynedd ar hugain. Rhannwyd y tir yn 75 uned a logwyd gan 200 o bobl, o Gymru a thu hwnt, a wrthwynebai'r cynllun. £12 oedd pris uned o dir ac fe'i rhannwyd yn bedwar rhan am £3 yr un. Y prif reswm am brynu'r tir hwn oedd bod perchnogion tir yn cael lleisio barn mewn ymchwiliad cyhoeddus i'r cynllun. Y bwriad hefyd oedd cadw 'tresbaswyr' a oedd yn gweithio ar y cynllun oddi ar y tir. Gwyddai pwyllgor amddiffyn Clywedog na ellid rhwystro'r cynllun, ond roedd prynu'r tir yn fodd iddynt brotestio yn erbyn y datblygiad arfaethedig. Pasiwyd deddf a roddai'r hawl i'r llywodraeth bwrcasu'r tir trwy orfodaeth, ac ni wnaeth yr ymgyrch prynu tir rwystro'r gronfa ddŵr rhag cael ei hadeiladu. |
|
Ar 13 Ebrill 1965 cynhaliwyd diwrnod i'r wasg Brydeinig yn nyffryn Clywedog tra roedd y gwaith adeiladu yn mynd yn ei flaen. Tarfodd rhai o aelodau Plaid Cymru, yn cynnwys yr arweinydd Gwynfor Evans, ar y diwrnod er mwyn dangos nad oedd y Cymry a'r bobl leol yn fodlon gyda'r hyn a oedd yn digwydd. Ar 6 Mawrth 1966 ffrwydrodd bom ar safle'r argae ac amheuwyd bod cysylltiad rhwng y digwyddiad a Mudiad Amddiffyn Cymru [MAC], sef grwp o eithafwyr gwleidyddol dan arweiniad John Barnard Jenkins. Gwnaed gwerth £36,000 o ddifrod ac fe gollwyd gwerth chwe wythnos o waith gan y ffrwydron. Gosodwyd bomiau hefyd yn y Deml Heddwch yn 1968, ac yn Abergele ar fore Arwisgo'r Tywysog Siarl yn 1969 pryd y lladdwyd Arwel Jones a George Taylor gan eu bom eu hunain. |
![]() |
|
|
||
|
|
|
|
|
|
||
| Top y dudalen | Tudalen Flaen Ymgyrchu! | |