|
Y Diwydiant Dŵr |
|
Yn ystod yr 20fed ganrif bu boddi dyffrynnoedd Cymru er mwyn cyflenwi dŵr i ddinasoedd Lloegr yn bwnc llosg a esgorodd ar ymgyrchoedd a phrotestiadau heddychlon a threisgar. Llyn Llanwddyn oedd y gronfa ddŵr gyntaf yng Nghymru. Cafodd ei hadeiladu yn yr 1880au ac ar y pryd, hwn oedd y llyn gwneud mwyaf yn y byd. Yna, yn ystod yr 1890au, prynodd Corfforaeth Dinas Birmingham 180km² o dir yn nyffrynnoedd Elan a Chlaerwen, Powys. Roedd angen mawr am ddŵr yn Birmingham am resymau iechyd cyhoeddus a diwydiannol. |
|
|
Yn 1904 agorwyd cronfeydd dŵr Elan gan Edward V11 a'r frenhines Alexandra i gyflenwi dŵr i ddinas Birmingham. Agorwyd tri argae yno, Craig Goch, Pen y Garreg a Chaban Coch, a oedd ag arwyneb o 500 erw. Yn 1907 fe greodd corfforaeth tref Penbedw lyn Alwen ar fynydd Hiraethog a oedd yn cyflenwi naw miliwn tunnell o ddŵr y diwrnod i Fwrdd Dŵr Cilgwri. Yn 1923 ceisiodd corfforaeth Warrington foddi dyffryn Ceiriog, ger Wrecsam, ond cafodd y mesur ei wrthod oherwydd i'r Aelodau Seneddol Cymreig bleidleisio yn ei erbyn. |
|
Cynlluniwyd tri argae yng Nghlaerwen ond dim ond un a gafodd ei hadeiladu, a hynny rhwng 1946 a 1953. Llogwyd yr ardal gan ganolbarth Lloegr am gyfnod o 999 o flynyddoedd am bum ceiniog y flwyddyn, gan eu cyflenwi â 75 miliwn tunnell o ddŵr y diwrnod. Roedd adnoddau naturiol gwerthfawr yn cael eu cymryd o Gymru yn aml heb iawndal, ac fe dyfodd anfodlonrwydd am y ffaith nad oedd Lloegr yn defnyddio ei hadnoddau ei hun i gael dŵr. Yn ystod yr 1970au roedd trydedd afon fwyaf Cymru a Lloegr, y Trannon (Trent), yn cynhyrchu dros 1,400 miliwn tunnell y diwrnod a chwestiynwyd pam na ddefnyddiwyd yr afon hon fel ffynhonnell ar gyfer cronni dŵr. |
|
|
Prynwyd tiroedd cefn gwlad Cymru trwy orfodaeth gan ddinasoedd Lloegr ar rai achlysuron, ac nid oedd dim y gallai'r trigolion ei wneud. Fel y gwelwyd yn Nhryweryn ac yng Nghlywedog, roedd cymunedau Cymreig yn cael eu chwalu wrth i'r dyffrynnoedd yma gael eu boddi. Yn ystod y 1960au hyrwyddwyd y syniad o sefydlu Bwrdd Dŵr i Gymru. Yn 1971 roedd adroddiad arbennig gan y Cyngor Cymreig yn galw am Awdurdod Datblygu Dŵr yng Nghymru i reoli'r ffynonellau dŵr a gwarchod buddiannau Cymru. Yn 1971, yn ystod llywodraeth Geidwadol Edward Heath pan roedd Peter Thomas yn Ysgrifennydd Gwladol, cytunwyd i sefydlu Awdurdod Dŵr i Gymru. |
|
|
||
|
|
|
|
|
|
||
| Top y dudalen | Tudalen Flaen Ymgyrchu! | |