
CWM TRYWERYN
(Cyflwynwyd i Gymdeithas Amddiffyn Capel Celyn)
Cyfododd y Goliath pres yn Lerpwl
I waradwyddo ac ysbeilio'r werin,
Gan gasglu'r afonydd at ei gilydd i gyd
I foddi'r gymdeithas yn Nhryweryn:
Tyred, Ddafydd, a'th gerrig o'r afon,
A Duw y tu ôl i'th ffon-dafl,
I gadw emynau Capel Celyn,
A baledi Bob Tai'r Felin.
Rhag eu mwrdro gan y dwr yn argae'r diafl.
Gofyn, Ddewi, i Dduw yn dy weddïau
Am achub rhag y Philistiaid dy werin.
Arweiniwch, y ddau Lywelyn a Glyndŵr
Eich byddinoedd i Gwm Tryweryn:
A thi, y Michael mawr o Fod Iwan
Pe byddet yn Y Bala yn awr,
Ni châi mynwent wâg Capel Celyn
Cartref a chnwd a chân a thelyn
Eu claddu tan argae'r dienwaededig gawr.
Gwenallt