Tryweryn

Yn 1965 boddwyd pentref Capel Celyn a Chwm Tryweryn, Y Bala, Meirionnydd er mwyn cyflenwi dŵr i ddinas Lerpwl. Boddwyd 800 erw o dir, ac hefyd yr ysgol, y llythyrdy, y capel a'r fynwent er mwyn creu cronfa ddŵr Llyn Celyn.

Boddwyd deuddeg fferm ac effeithiwyd ar diroedd pedair fferm arall.

Capel Celyn cyn cael ei foddi (38K)
Capel Celyn cyn cael ei foddi (53K)  Gwaith adeiladu yn dechrau, 1960 (44K)

Rhestr o'r ffermydd a effeithiwyd gan y cynllun
ynghyd â'r preswylwyr a nifer yr aceri:

1 Tyucha a Thyddyn Bychan 03 D. Jones
2 Hafod Fadog 07 D. Jones
3 Garnedd Lwyd, rhan o Goed-y-Mynach 45 J. W. Evans
4 Caefadog a Choedymynach 52.5 D. Roberts
5 Gelli Uchaf 51.5 Gth Evans
6 Gwerndelwau 46 J. Rowlands
7 Hafodwen 08.5 J.A. Jones
8 Ty Nant 02 R.E. Jones
9 Craigyronw, Weirglodd Ddu, Moelfryn a Chaerwernog 80.5 M. Roberts
10 Maesydail 85 I. Jones
11 Bochyrhaeadr 44.5 W. H. Pugh
12 Brynifan 10.5 J. M. Jones
13 Gwerngenau 68 C. O. Jones
14 Penbryn Mawr a Thynybont 79 J. J. Edwards
15 Penbryn Bach a Dolfawr 65 I Parry
16 Tyncerrig 42 I Roberts
  Cyfanswm yr aceri = 770  
Pasiwyd Mesur Boddi Cwm Tryweryn gan y Senedd ar 1 Awst 1957. Mesur preifat ydoedd a noddwyd gan gyngor Dinas Lerpwl ac a basiwyd gan lywodraeth Geidwadol Harold Macmillan a'i Weinidog dros Faterion Cymreig, Henry Brooke. Roedd y mesur yn caniátau pwrcas gorfodol o'r tir ar gyfer creu cronfa ddŵr.
Llythyr oddi wrth  Gwynfor Evans at y Prif Weinidog Harold Macmillan yn 1957 (47K)
Tudalen o'r 'Welsh Nation', Awst 1957 (66K) Gwrthwynebwyd y cynllun gan y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Cymru, ond nid oedd ganddynt rym i rwystro'r datblygiad gan fod y llywodraeth am wthio'r mesur drwy'r Senedd. Nid oedd gan awdurdodau lleol chwaith lais yn y penderfyniad ac fe wnaeth hyn beri anfodlonrwydd mawr. Roedd y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn unol mewn gwrthwynebiad i'r cynllun, oherwydd fe'i gwelwyd fel sarhad ar Gymru am fod ei hadnoddau gwerthfawr yn cael eu dwyn oddi arni.
Roedd gwerth amaethyddol y tir yn uchel o'i gymharu â darnau eraill o dir y gellid wedi eu hystyried, a teimlwyd nad oedd cynlluniau posibl eraill wedi eu trafod yn ddigonol. Tair Cenhedlaeth o flaen llythyrdy Capel Celyn (52K)
Gadael cartrefi yng Nghapel Celyn (67K) Hefyd roedd teimlad o dristwch am fod cymuned yn cael ei chwalu a theuluoedd a wreiddiwyd yn yr ardal ers cenedlaethau yn cael eu gorfodi i adael eu cartrefi.
Roedd y trigolion lleol yn gadarn yn eu penderfyniad i wrthwynebu i'r pendraw a bu gwrthdystio a deisebu. Yn 1956 ffurfiwyd Pwyllgor Amddiffyn Tryweryn a oedd yn cynnwys rhai o hoelion wyth Cymru megis Ifan ab Owen Edwards, Megan Lloyd George, T. I. Ellis, a'r Arglwydd Ogmore. Ffurfiwyd nifer o ganghennau eraill hefyd megis Pwyllgor Amddiffyn Capel Celyn a phwyllgor Amddiffyn Tryweryn yn Lerpwl. 14 Pwynt yr Henadur Gwynfor Evans (57K)
Nid oddi wrth genedlaetholwyr yn unig y deuai gwrthwynebiad, ond bu achos Tryweryn yn ysgogiad o bwys i Blaid Cymru ac yn sbardun i ymgyrchu. Ym mis Medi 1956 cynhaliwyd Rali 'Cadw Tryweryn' gan Blaid Cymru pan gorymdeithiwyd i lawr stryd fawr y Bala.
Ym mis Hydref 1956 galwyd cyfarfod i achub Tryweryn yng Nghaerdydd gan Faer y ddinas, yr Henadur J H Morgan, lle roedd dros 300 o gynrychiolwyr awdurdodau lleol, undebau llafur, a deg AS yn bresennol. Penodwyd yr Henadur Huw T Edwards yn gadeirydd a phenderfynwyd danfon dirprwyaeth o'r gynhadledd i gwrdd ag aelodau Corfforaeth Lerpwl i apelio arnynt i newid eu meddyliau. Y rhai a ddanfonwyd oedd Mr D R Grenfell AS, Arglwydd Faer Caerdydd, Huw T Edwards, y Cynghorydd Emrys Owen a Dr R Robinson. Taflen i ddangos y gwrthwynebiad tuag at foddi Capel Celyn (24K)

Protest yn Lerpwl, 1956 i wrthwynebu boddi Capel Celyn (33K)

Ym mis Tachwedd 1956 cafwyd gorymdaith yn Lerpwl, gyda Gwynfor Evans yn arwain 70 o bentrefwyr er mwyn dangos eu gwrthwynebiad i'r cynllun, ond pleidleisiodd cynghorwyr Lerpwl i barhau â'r cynllun. Cynigiodd Gwynfor Evans yn Awst 1957 bod Cyngor Sir Feirionnydd yn creu cronfa yng Nghwm Croes, lle roedd un fferm yn unig, ac wedyn yn gwerthu'r dŵr i Lerpwl.

Ar dri achlysur rhwng 1962 a 1963 cyflawnwyd difrod yng Nghwm Tryweryn. Ar 10 Chwefror 1963 fe ffrwydrwyd trosglwyddydd a oedd yn y gronfa ac Emyr Llewelyn Jones, myfyriwr yn Aberystwyth a gosbwyd am y weithred. Fe'i dedfrydwyd i garchar am ddeuddeg mis. Pan gafodd ei ddedfrydu aeth Owain Williams a John Albert Jones, a oedd yn aelodau o Fudiad Amddiffyn Cymru, i chwythu peilon trydan yn Gellilydan. Emyr Llewelyn Jones (16K)
Tryweryn
Windows
QuickTime
Real

Er gwaetha'r gwrthwynebiad cyhoeddus aeth y cynllun yn ei flaen ac fe agorwyd Llyn Celyn fel cronfa ddŵr yn swyddogol ar 28 Hydref 1965. Rhaid oedd adeiladu heolydd newydd gan fod yr heol o Bala i Ffestiniog yn cael ei boddi, a chost y prosiect oedd £20 miliwn. Roedd llyn Celyn yn dal 71, 200 megalitr o ddŵr, yr argae mwyaf yng Nghymru. Ceir cofeb wrth ymyl y llyn a gerddi coffa, a symudwyd hen gerrig beddi Capel Celyn yno.

Cynhaliwyd protest yn ystod y seremoni agoriadol swyddogol lle roedd Arglwydd Faer Lerpwl yn bresennol. Yn bresennol hefyd mewn lifrau milwrol yr oedd Byddin Rhyddid Cymru. Dechreuwyd ymgyrch recriwtio gan 'Fyddin Rhyddid Cymru' yn 1963, ond protest Tryweryn oedd yr achlysur cyntaf iddynt ymddangos yn gwrthdystio. Rhyddhawyd lluniau o'r aelodau yn ymarfer gydag arfau yn ddiweddarach ond nid oedd tystiolaeth eu bod yn gweithredu'n dreisiol. Yn 1969 arestiwyd yr arweinwyr a dedfrydwyd chwech ohonynt, yn cynnwys yr arweinydd Julian Cayo Evans, i bymtheg mis o garchar. Protest mis Hydref 1965  (31K)

Y Diwydiant Dŵr
Clywedog
Tryweryn

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!
Map o'r safle Tudalen Chwilio Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Llinell Amser I fyny Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru