Ymgyrch Diarfogi Niwclear

Adeiladwyd y bom atomig cyntaf gan yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn Awst 1945 gollyngwyd bomiau atomig ar Siapan er mwyn ceisio dod â'r rhyfel yn y Dwyrain Pell i ben. Lladdwyd 120,000 o bobl pan ollyngwyd bom plwtonium ar Nagasaki, a lladdwyd 90,000 pan ollyngwyd bom wraniwm ar Hiroshima.

Rali CND, Aberystwyth, 1961 (60K)

Poster rali cyntaf CND Cymru, 1961 (51K)
Ar ôl y Rhyfel datblygodd yr Undeb Sofietaidd fom niwclear ac yr oedd pryder ar hyd a lled y byd ynglŷn â dyfodol y ddynoliaeth oherwydd y bygythiad o ryfel niwclear. Sefydlwyd mudiad CND (Campaign for Nuclear Disarmament) ym Mhrydain yn 1958 ac yna ffurfiwyd nifer o ganghennau yng Nghymru, gyda'r cyntaf yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd rali gyntaf y mudiad yng Nghymru yn Aberystwyth yn 1961 ar ôl ffurfio Cyngor Cenedlaethol Cymreig CND.
Lluniwyd polisi cyntaf CND gan J. B. Priestley ac eraill megis Bertrand Russell, Michael Foot, y Canon John Collins, Sheila Jones ac Arthur Goss. Daethant ynghyd ar ôl cael y syniad y dylid creu mudiad cenedlaethol i ymgyrchu yn erbyn arfau niwclear. Trefnwyd nifer o orymdeithiau rhwng 1958 a 1963 i Aldermaston, Berkshire, safle sefydliad ymchwil i arfau atomig.
Bara nid bomiau (56K)
Heddwch - cylchgrawn CND Cymru, 1996 (40K) Yn 1963 cytunodd Prydain, Unol Daleithiau'r America a'r Undeb Sofietaidd ar Gytundeb Gwahardd Arbrofi Niwclear (Nuclear Test-Ban Treaty). Roedd y cytundeb yn gwahardd arbrofi niwclear ar dir, yn y môr ac yn y gofod. Yn 1996 arwyddwyd Cytundeb arall mwy cynhwysfawr gan bob pŵer niwclear yn y byd ac eithrio India.
Yn yr 1980au tyfodd CND eto o dan arweiniad Bruce Kent, yn wyneb pryderon ynglŷn â rhyfel niwclear a'r tensiwn rhwng y Gorllewin a'r Dwyrain. "Cymru Ddi Niwcliar" (15K)
Rali CND, 1982 (27K) Erbyn 1982 yr oedd pob un o siroedd Cymru wedi ymuno â'i gilydd i wahardd arfau niwclear o'u tiriogaeth, ac ym mis Chwefror cyhoeddwyd mai Cymru oedd y wlad ddi-niwclear gyntaf yn Ewrop.

Comin Greenham, Berkshire, oedd un o safleoedd taflegrau niwclear Cruise yr Unol Daleithiau. Ar 27 Awst 1981 dechreuodd 36 o wragedd ar daith brotest o Gaerdydd i Gomin Greenham gyda'r bwriad o gyflwyno llythyr i awdurdodau'r safle yn nodi eu gwrthwynebiad i leoli taflegrau niwclear 'tactegol' dan reolaeth Americanaidd yn ne Lloegr.

Bathodyn Comin Greenham (21K)'Restore Greenham Common' (27K)
Gwersyll Comin Greenham (34K)
Clymodd rhai o'r gwragedd eu hunain i'r ffens a amgylchynai'r safle. O hynny ymlaen bu merched yn gwersylla yno fel protest yn erbyn taflegrau niwclear, hyd nes y symudwyd yr arfau ymaith yn 1991.
Hybwyd ynni niwclear gan lywodraeth Prydain fel dull o gynhyrchu trydan heb ddefnyddio tanwydd ffosil, ac hefyd fel modd o ddarparu'r deunydd crai ar gyfer cynhyrchu arfau niwclear. Adeiladwyd gorsafoedd ynni niwclear yn yr Wylfa, Ynys Môn ac yn Nhrawsfynydd, Gwynedd ond erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif roedd atomfa Trawsfynydd wedi ei dadgomisiynu.
Ymgyrch CND Cymru yn erbyn Trident (50K)
Heddwch - cylchgrawn CND Cymru, 1994 (59K)
Yn 1986 bu damwain yng ngorsaf ynni niwclear Chernobyl yn yr Iwcrain, trasiedi a ddaeth â pheryglon y diwydiant niwclear i sylw'r byd. Yng Nghymru yn yr 1980au sefydlwyd mudiadau megis MADRYN (Mudiad Amddiffyn Dynoliaeth Rhag Ysbwriel Niwclear) a WANA (Y Cynghrair Wrth-Niwclear Cymreig) i wrthwynebu gweithgareddau'r diwydiant ynni niwclear.

Recriwtio a'r Rhyfel Byd Cyntaf Heddychiaeth Ymgyrch Diarfogi Niwclear
Rhyfel Cartref Sbaen Yr Ail Ryfel Byd

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!
Map o'r safle Tudalen Chwilio Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Llinell Amser I fyny Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru