| Cred heddychwyr
bod rhyfeloedd yn anfoesol ac anwaraidd. Un o heddychwyr mwyaf adnabyddus
Cymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif oedd George M. LL. Davies
a aned yn Lerpwl. Fe'i carcharwyd ar sawl achlysur am wrthwynebu y Rhyfel Mawr a gorfodaeth filwrol. |
 |
 |
Yn 1914 ffurfiodd
ef a'i gyfaill Richard Roberts o Flaenau Ffestiniog gymdeithas Gristnogol
er hybu heddwch o'r enw Cymdeithas y Cymod. Bu iddynt gyhoeddi misolyn o'r enw Y Deyrnas o 1916 i 1919 o dan olygyddiaeth
Thomas Rees, prifathro coleg Bala-Bangor. |
| Roedd traddodiad cryf o heddychiaeth o fewn rhai o'r enwadau Anghydffurfiol Cymreig a gwrthododd
nifer fynd i ryfela oherwydd eu bod yn wrthwynebwyr cydwybodol. Treuliodd
y bardd 'Gwenallt', (David James Jones) gyfnod yng ngharchar Wormwood
Scrubs a Dartmoor yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf am wrthod 'gwisgo'r dillad Khaki'. Ei brofiad fel carcharor a'i hysgogodd i ysgrifennu ei nofel Plasau'r Brenin (1934). Roedd y Rhyfel yn wrthun ganddo am resymau Cristnogol, sosialaidd a chenedlaetholgar.
|
|
"Cynnwys Cymdeithas y Cymod bobl a unir gan argyhoeddiad cyffredin
mai yn Iesu Grist y mae ateb i holl broblemau gwareiddiad cymhleth
ein dydd. Cychwynwyd y Gymdeithas gan rhyw 130 o bobl a gyfarfu
yng Nghaergrawnt yn ystod y pedwar diwrnod olaf yn 1914."
Geiriau agoriadol y daflen 'Cymdeithas y Cymod - Ei Sylfeini', Cyfres Newydd Rhif 1, tud. 3, Caernarfon, d.d. |
|
Gwrthwynebai eraill ryfle am resymau
gwleidyddol a sosialaidd, megis Arthur Horner y Comiwnydd a garcharwyd am
wrthod ymladd ym Myddin Prydain yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn dilyn y Rhyfel Mawr, a ddaeth i ben yn 1918, sefydlwyd Cyngor Cymreig Cynghrair
y Cenhedloedd yn 1922. |
| Nod y Cyngor oedd sicrhau
cydweithrediad rhwng cenhedloedd y byd. Cyfraniad ariannol sylweddol oddi
wrth y diwydiannwr a'r dyngarwr David Davies, Llandinam a sicrhaodd fodolaeth cangen Gymreig y Cynghrair.
Y Parchedig Gwilym Davies oedd cyfarwyddwr cyntaf y gangen, ac ef hefyd a
ddechreuodd Neges Ewyllys Da Plant Cymru yn 1922. |
 |
 |
Wrth i ail Ryfel Byd ddod yn fwy
tebygol yn 1938 agorwyd Teml Heddwch ac Iechyd Cenedlaethol Cymru yng
Nghaerdydd. Roedd y sefydliad newydd yma eto yn rhan o weithgaredd David
Davies Llandinam dros heddwch. |
| Daeth y Deml yn gofeb i'r dynion
a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Mawr yn ogystal ac yn bencadlys i ddau
fudiad Cymreig, sef Cymdeithas Gofeb Genedlaethol Gymreig Edward VII a
Chyngor Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd. |
 |
 |
Yn 1937 sefydlwyd Cymdeithas Heddychwyr
Cymru gyda G. M. LL. Davies yn llywydd a Gwynfor Evans yn ysgrifenydd. Erbyn
diwedd y flwyddyn roedd pamffled wedi ei gyhoeddi i gyd-fynd â'r
mudiad o dan y teitl Ymwrthodwn â Rhyfel, ac fe gyhoeddwyd dwsinau o bamffledi ganddynt i gyd. |
|
Cofnodwyd 2,920 o wrthwynebwyr cydwybodol yng Nghymru
yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Am y tro cyntaf aethpwyd â George Lloyd,
Wrecsam a Robert J. Evans, Brymbo o flaen eu gwell oherwydd eu cais
i beidio ag ymuno â'r fyddin ar sail eu daliadau fel cenedlaetholwyr
Cymreig.
|
 |