|
Y Rhyfel Byd Cyntaf, 1914-18, a'r ymgyrch recriwtio yng Nghymru |
|
Cyhoeddodd Prydain ryfel yn erbyn yr Almaen ar Awst 4ydd 1914, pan feddiannwyd Gwlad Belg gan yr Almaen. Ar argymhelliad Lloyd George sefydlwyd 'byddin Gymreig' i ymladd yn y Rhyfel Mawr. Penodwyd Owen Thomas o Lanfechell, Môn yn Gadfridog a John Williams, Brynsiencyn yn gaplan. |
|
|
Roedd John Williams Brynsiencyn yn weinidog Methodistaidd ac yn amlwg iawn yn yr ymgyrch recriwtio, yn enwedig yn rhai o ardaloedd mwyaf Cymreig a gwledig Cymru. Byddai'n pregethu yn ei lifrai milwrol a'i goler gron am hawliau'r cenhedloedd bychain ac yn annog dynion i ymuno â'r fyddin. |
|
Roedd 100,000 o Gymry wedi ymuno â'r fyddin Gymreig cyn Mai 1915. Erbyn diwedd y rhyfel roedd 272,000 o ddynion Cymru wedi ymladd yn y Rhyfel Mawr a bron i 35,000 ohonynt wedi eu lladd. |
|
|
Bu milwyr o Gymru yn ymladd ym mrwydr y Somme yn 1916 a hefyd yng Nghoedwig Mametz lle y cafwyd llawer o golledion. Bu farw Dafydd Roberts, brawd yr awdures Kate Roberts yn 1917 yn bedair ar bymtheg oed ym Malta yn dilyn ei glwyfo yn Salonica. |
|
|
|
|
Gŵr arall a gollodd ei fywyd yn y ffosydd oedd y bardd 'Hedd Wyn' (Ellis Humphrey Evans). Pasiwyd Deddf Gorfodaeth Filwrol yn 1916 a bu'n rhaid iddo ymuno â'r Fyddin. Bu farw ar 31 Gorffennaf 1917, ychydig dros fis cyn Eisteddfod Genedlaethol Penbedw. Enillodd Hedd Wyn Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno, ond pan gyhoeddwyd enw'r enillydd gorchuddiwyd y gadair ag amwisg ddu a daeth Hedd Wyn i gael ei adnabod fel Bardd y Gadair Ddu. |
|
|
|
||
| Recriwtio a'r Rhyfel Byd Cyntaf | Heddychiaeth | Ymgyrch Diarfogi Niwclear |
| Rhyfel Cartref Sbaen | Yr Ail Ryfel Byd | |
|
|
||
| Top y dudalen | Tudalen Flaen Ymgyrchu! | |