Rhyfel Cartref Sbaen

Dechreuodd Rhyfel Cartref Sbaen yn 1936 wedi i'r Cenedlaetholwyr Radical, a gefnogai'r Cadfridog Franco, godi yn erbyn y weriniaeth a oedd wedi ei sefydlu yn Sbaen yn 1931. Cydymdeimlai llawer o Gymry â'r Weriniaeth yn Sbaen ac y mae llawer o enghreifftiau o Gymry yn ceisio eu cynorthwyo.

Lewis Jones oedd un o drefnwyr mwyaf effeithiol y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru. Roedd yn gynghorydd yn y Rhondda a fe'i hetholwyd yn aelod o bwyllgor Cymreig y Blaid Gomiwnyddol yn 1931. Trefnodd brotestiadau a gwrthdystiadau yn Llundain er mwyn dangos cefnogaeth i Weriniaeth Sbaen.

Cerdyn post - Sbaen o dan Ffranco (38K)
Y Ddraig Goch, Rhag. 1936 (  K)

Sefydlwyd cangen Brydeinig y Frigâd Ryngwladol ym mis Rhagfyr 1936. Erbyn diwedd y Rhyfel Cartref yn Sbaen roedd 177 o Gymry wedi bod yn ymladd dros y Weriniaeth a lladdwyd 33 ohonynt.

Daliwyd nifer o Gymry yn wystlon yn Sbaen ac un ohonynt oedd Tom Jones o Rosllanerchrugog. Roedd wedi bod yn ysgrifennydd Cyngor Heddwch Rhos tan iddo ymuno â'r Brigad Rhyngwladol. Cymerwyd ef yn garcharor yn Sbaen ym mis Medi 1938 ac ni ryddhawyd ef tan fis Mawrth 1940, wedi i lywodraeth Prydain gytuno i arwyddo cytundeb masnach a oedd, yn ôl rhai, yn werth £2,000,000.

Cafwyd sawl ymgais gan Gymry i dorri drwy'r blocâd gwarchaeoedd a osodwyd gan Franco o amgylch Sbaen i rwystro cymorth rhag cyrraedd ei wrthwynebwyr. Ceisiodd Capten David John Jones o Abertawe basio trwy'r gwarchae â llongiad o datws a daethpwyd i'w adnabod fel 'Potato Jones'.

Ar 26 Ebrill 1937 dinistriwyd tref Guernica yng Ngwlad y Basg gan awyrennau bomio Almaenig a oedd wedi eu gyrru yno gan Hitler. Roedd hi'n ddiwrnod marchnad prysur yn y dref ac fe laddwyd miloedd o drigolion. Sefydlwyd cronfa yng Nghymru i godi arian ar gyfer plant y Basgiaid yng Nghaerllion, Abertawe, Brechfa a Hen Golwyn, a mabwysiadwyd rhai o'r plant gan deuluoedd lleol.

Rhaglen cyngerdd i godi arian i blant gwlad y Basg, 1939 (43K)

Recriwtio a'r Rhyfel Byd Cyntaf Heddychiaeth Ymgyrch Diarfogi Niwclear
Rhyfel Cartref Sbaen Yr Ail Ryfel Byd

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!
Map o'r safle Tudalen Chwilio Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Llinell Amser I fyny Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru