|
Ail Ryfel Byd, 1939-45 |
|
Cyhoeddodd Prydain a Ffrainc ryfel yn erbyn yr Almaen ar ôl i Adolf Hitler oresgyn gwlad Pwyl yn 1939. Yn ystod dwy flynedd cyntaf yr ymladd fe ddaeth 200,000 o bobl i fyw i Gymru, gyda 50,000 o blant yn cael eu cludo i'r Rhondda o ddinasoedd Lloegr. Trwy hynny byddent yn osgoi cael eu niweidio gan y bomiau a ollyngwyd ar drefi mawr a phorthladdoedd Lloegr. |
|
||||||||||
![]() |
Erbyn 1939 roedd y llywodraeth wedi dosbarthu mygydau nwy i bobl Cymru oherwydd y bygythiad o ymosodiadau â nwy gwenwynig. Roedd y llywodraeth yn annog gwragedd i fod yn ofalus iawn gyda'r bwyd a oedd ar gael, gan eu hybu i gynilo ac arbrofi â rysetiau a chynhwysion newydd. | ||||||||||
| Roedd merched Byddin y Tir wedi eu hyfforddi i gyflawni dyletswyddau'r dynion yn y byd amaeth ac roedd posteri di-rif yn galw ar y ffermwyr i aredig y tir yn aml er mwyn sicrhau cynnydd mewn cynnyrch amaethyddol. |
|
||||||||||
|
|||||||||||
| Ym mis Ionawr 1941 cafodd 165 o bobl eu lladd yng Nghaerdydd o ganlyniad i ymosodiad gan awyrennau bomio'r Almaen. Fis yn ddiweddarach rhwng 19 a 21 Chwefror, bu ymosodiad ar ddinas Abertawe pan gafwyd tair noson o fomio yno. Lladdwyd 230 o'i thrigolion a chwalwyd y rhan fwyaf o ganol y ddinas. | |||||||||||
![]() |
|||||||||||
![]() |
Pan gyhoeddodd Prif Weinidog Prydain, Winston Churchill, ar 8 Mai 1945, bod yr Ail Ryfel Byd wedi dod i ben cafwyd dathliadau ar hyd a lled y wlad. Cafwyd gwasanaeth o ddiolchgarwch yng Nghaerdydd a Machynlleth a chlywyd clychau eglwysi'r wlad am y tro cyntaf ers dechrau'r Rhyfel. Yn y Drenewydd cynhaliwyd gorymdaith blant a choelcerth heddwch i ddathlu diwedd y Rhyfel ynghyd â seremoni coroni 'Tywysoges Heddwch'. | ||||||||||
| Collodd dros 15,000 o Gymry eu bywydau yn ystod y Rhyfel. | ![]() |
||||||||||
|
|
||
| Recriwtio a'r Rhyfel Byd Cyntaf | Heddychiaeth | Ymgyrch Diarfogi Niwclear |
| Rhyfel Cartref Sbaen | Yr Ail Ryfel Byd | |
|
|
||
| Top y dudalen | Tudalen Flaen Ymgyrchu! | |