gyffredinol. Dal i dyfu mae pethau, a'r galw'n tyfu am ragor o ysgolion cynradd. Mae tair yn Sir Fynwy nawr, ac oddiar Medi, 1971, mae yna un yng Nghasnewydd, sef dosbarth, i ddechrau, a byddaf yn ymweld â'r dosbarth yma yfory. Ym Morgannwg, mae 19, gan gynnwys ysgolion mawr, erbyn hyn, fel y Barri (tua 370, a gorfod sefydlu ysgol arall - bron 100 erbyn hyn - ym Mhenarth i gymryd y gorlif.) Mae'r ddwy ysgol uwchradd, Rhydfelen ac Ystalafera ( ie, yn yr hen ysgol Ramadeg, lle buoch chi unwaith!) yn prifio'n dda. Rhyngddyn nhw, fe dderbyniwyd tua 350 o blant "o fewn eu pyrth" fis Medi diwethaf. Erbyn tua 1976, fe fydd oddeutu 800 y flwyddyn yn mynd iddyn nhw, ac i ddwy ysgol arall sydd 'ar y gweill?

Newyddion da, ynte!, a dyna'r calennig rwy'n ei anfon atoch y flwyddyn newydd hon, fel arwydd o ddiolch, parch ac edmygedd.

Gyda chyfarchion o'r gwresocaf,

Yr eiddoch yn bur,

T. Raymond Edwards


1 / 2 (31K)

Llythyr at Dr Kate Roberts gan T. Raymond Edwards,1972, yn nodi bod y galw am ysgolion Cymraeg yn tyfu.   Yn ôl
Letter to Dr Kate Roberts from T. Raymond Roberts, 1972, stating that the demand for Welsh Schools is on the increase.   Back
Carta al doctor Kate Roberts de T. Raymond Roberts, 1972, en la que decía que la demanda de escuelas galesas está aumentando.