![]() |
Dinbych Mehefin 1960 Annwyl Tua dwy flynedd yn ôl cychwynnwyd mudiad yn Ninbych, o dan nawdd Cyngor Eglwysi Rhyddion a Chymdeithas Gymraeg y dref, i gael Ysgol Gymraeg yma. Yr oedd teimlad cryf bod angen un, gan nad yw plant y dref na'r bobl ieuanc yn siarad Cymraeg a'u gilydd bellach, a dim ond ychydig o'r bobl mewn oed. Yr oedd dylanwad hyn i'w weld yn amlwg ar eglwysi a chylchoedd diwylliannol y dref. Ffurfiwyd pwyllgor yn cynrychioli'r ddau gorff uchod a rhai o'r rhieni, ac wedi gweithio dygn caniataodd y Pwyllgor Addysg ein cais, a bwriedir agor yr ysgol fis Medi nesaf yn Ysgoldy'r Capel Mawr, trwy ganiatâd caredig yr Ymddiriedolwyr. Eithr bydd yn rhaid i bwyllgor Ysgol Gymraeg ei hun dalu am yr atgyweiriadau i'r Ysgoldy, a chyst hyn swm sylweddol Bwriedir felly agor cronfa i gasglu arian, ac amcan y llythyr hwn yw gofyn a fyddwch chwi mor garedig â bod yn noddwr i'r gronfa. Gofynnwn i ugain, a rhoi eu henwau ar y lythyr cyffredinol a anfonir allan. Byddwn ddiolchgar iawn am eich cydweithrediad Yr eiddoch yn gywir |