|
Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, S4C, Deddf Iaith |
|
|
|||||||||||||
|
Tynged yr Iaith 'Nid dim llai na chwyldro yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo'. Dyna oedd byrdwn datganiad herfeiddiol Saunders Lewis mewn un o'r darllediadau pwysicaf yn hanes Cymru, sef Darlith Radio flynyddol y BBC a draddodwyd ar 13 Chwefror 1962.
|
|||||||||||||
|
Roedd Saunders Lewis yn gyn-Lywydd Plaid Cymru ond roedd wedi encilio o ymgyrchu gwleidyddol ers blynyddoedd a threulio'i amser yn llenydda. Cafodd ei ddarlith effaith ysgytwol. | ||||||||||||
|
Galwodd Saunders Lewis ar Gymry i wrthod llenwi ffurflenni a thalu trethi a thrwyddedau os nad oedd yn bosibl i wneud hynny drwy'r Gymraeg. Yn ei farn ef, byddai angen i ymgyrchwyr fod yn barod i dalu dirwyon a wynebu carchar am eu daliadau. Er bod y nifer o siaradwyr Cymraeg yn gostwng, datganodd : 'Fe ellir achub y Gymraeg'. |
![]() |
||||||||||||
|
|
|||||||||||||
|
Arweiniodd darlith Saunders Lewis at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac at gyfnod o brotestio dros hawliau'r Gymraeg. |
|
||||||||||||
![]() |
Sefydlwyd y Gymdeithas ar 4 Awst 1962 yn ystod Ysgol Haf Plaid Cymru ym Mhontarddulais. Yn Chwefror 1963 gwelwyd y protestiadau torfol cyntaf pan ataliwyd y traffig ar Bont Trefechan Aberystwyth gan fyfyrwyr o Aberystwyth a Bangor. | ||||||||||||
| Yn ystod y 1960au a'r 1970au bu nifer o brotestiadau didrais tebyg a charcharwyd neu ddirwywyd ymgyrchwyr. Ymhlith y rhain oedd y canwr poblogaidd Dafydd Iwan. | |||||||||||||
|
Enillwyd rhai consesiynau gan y Llywodraeth gan gynnwys Deddf Iaith 1967 a chynhyrchwyd ffurflenni dwyieithog gan rai cyrff cyhoeddus. | ||||||||||||
|
Am gyfnod peintiwyd neu ddifrodwyd arwyddion ffyrdd uniaith Saesneg ar hyd a lled Cymru gan gefnogwyr y Gymdeithas ac arweiniodd yr ymgyrch hon at sefydlu'r egwyddor o arwyddion dwyieithog yng Nghymru. |
|
||||||||||||
|
|
|||||||||||||
|
Ar ddechrau'r 1970au dechreuodd Cymdeithas yr Iaith ymgyrchu dros wasanaeth darlledu radio a theledu Cymraeg. |
![]() |
||||||||||||
![]() |
Gwrthododd rhai protestwyr â phrynu trwyddedau teledu a bu eraill yn dringo mastiau darlledu ac yn ymyrryd â stiwdios teledu. | ||||||||||||
| Cynyddodd y pwysau ar yr awdurdodau darlledu i gynnig gwasanaeth Cymraeg ac yn 1977 sefydlwyd Radio Cymru gan y BBC. |
|
||||||||||||
|
Roedd cynlluniau hefyd i sefydlu sianel deledu ar wahân ar gyfer rhaglenni Cymraeg ond yn 1979 cyhoeddodd y Llywodraeth Geidwadol na fyddai'n cadw'r addewid i sefydlu'r fath sianel. | ||||||||||||
| Gan hynny, cyhoeddodd Gwynfor Evans y byddai'n dechrau ymprydio oni fyddai'r Llywodraeth yn anrhydeddu ei haddewid. Achosodd y penderfyniad hwn gryn gynnwrf ac ofnid y gallai arwain at ymgyrchu treisgar. | |||||||||||||
|
|
Yn y pen draw ildiodd y Llywodraeth i'r pwysau a chyhoeddwyd ym mis Medi 1980 y darlledid rhaglenni teledu Cymraeg ar y bedwaredd sianel newydd. Lansiwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C) yn 1982. |
||||||||||||
|
|
|||||||||||||
|
Nid oedd Deddf Iaith 1967 yn bodloni ymgyrchwyr dros y Gymraeg ac yn 1982, wedi cyhoeddi Maniffesto Cymdeithas yr Iaith, dechreuwyd ymgyrch am Ddeddf Iaith newydd gynhwysfawr. |
|
||||||||||||
|
Ar ôl cyfnod hir o brotestio pasiodd y Senedd Ddeddf Iaith newydd ar 21 Hydref 1993. Yn ôl y Ddeddf byddai bwrdd statudol yn cael ei sefydlu i hyrwyddo'r Gymraeg a byddai cyrff cyhoeddus yn gorfod paratoi cynlluniau iaith i ddangos sut yr oeddynt am roi triniaeth deg i'r Gymraeg. Ond beirniadwyd y Ddeddf gan Gymdeithas yr Iaith gan honni ei bod yn Ddeddf 'ddi-ddannedd, ddiddim.'. |
||||||||||||
|
|
|||||||||||||
|
'Gwnewch bopeth yn Gymraeg' Cyn y 1960au tueddai'r Gymraeg fod yn iaith yr aelwyd a'r capel a phrin oedd y defnydd o'r iaith mewn cylchoedd eraill. Ond gyda'r adfywiad yn y diddordeb yn y Gymraeg a'r ymgyrchu ar ei rhan, gwelwyd cynnydd yn y mudiadau a chymdeithasau a hyd yn oed busnesau a weithredai drwy gyfrwng y Gymraeg. Cyhoeddwyd llawer mwy o lyfrau Cymraeg a sefydlwyd dwsinau o bapurau bro Cymraeg ledled Cymru. Defnyddiwyd y Gymraeg fwyfwy mewn bywyd cyhoeddus ac yr oedd y Cynulliad Cenedlaethol a sefydlwyd yn 1999 wedi'i gyfundrefnu i weithredu'n ddwyieithog. |
|||||||||||||
|
|
||
| Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Deiseb yr Iaith, Addysg | ||
| Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, S4C, Deddf Iaith | ||
|
|
||
| Top y dudalen | Tudalen Flaen Ymgyrchu! | |