|
The Miners' Next Step a Streic Gyffredinol 1926 |
| Yr 'Aflonyddwch Mawr' yw'r term a ddefnyddir i ddisgrifio'r blynyddoedd rhwng 1908 a 1914, pan welwyd sawl achos o aflonyddwch diwydiannol yng Nghymru a Phrydain, gan gynnwys streic y Cambrian Combine, terfysgoedd Tonypandy a phrotestiadau'r swffragetiaid. Yng Nghymru hefyd gwelwyd cythrwfl yng Nghwm Cynon dan arweiniad y Undeb y Glowyr, terfysg yn Llanelli yn ystod streic gwŷr y Rheilffyrdd; cyrch ar siopau Iddewon yn Nhredegar ac ymosodiad ar gymuned Tseinieaidd Caerdydd yn ystod Streic y Morwyr. | ![]() |
![]() |
Dechreuodd Streic y Cambrian Combine, Rhondda, ym mis Tachwedd 1910 o ganlyniad i anghydfod ynglŷn â thâl am weithio mannau anodd ac annormal yn y pyllau glo. D A Thomas, cyn AS Rhyddfrydol Bwrdeisdref Caerdydd a Merthyr, oedd perchennog y Cambrian Combine, a dechreuodd y cythrwfl pan wrthododd rhai dynion y tâl a gynigiwyd iddynt. Caewyd 800 allan o'u gwaith yn dilyn yr anghytundeb ac erbyn mis Tachwedd roedd 12,000 o lowyr y Cambrian Combine ar streic. |
| Deilliodd yr hyn a elwir yn Derfysgoedd Tonypandy o'r streic pan drodd y tensiwn yn dreisgar wrth i rai geisio rhwystro torwyr y streic rhag mynd at eu gwaith. Cafwyd ymladd rhwng y glowyr a'r plismyn ac fe faluriwyd siopau ac eiddo. Wedi'r terfysg gyrrodd yr Ysgrifennydd Cartref, Winston Churchill, filwyr i'r ardal i gadw'r heddwch ac fe fuont yno am wythnosau. Roedd Churchill yn amhoblogaidd iawn yn yr ardal am flynyddoedd lawer yn dilyn y digwyddiad. Parhaodd glowyr y Cambrian ar streic tan Hydref 1911, pan orfu iddynt ddychwelyd ar delerau'r perchnogion. | ![]() |
![]() |
Yn yr awyrgylch hwn yn 1912 yr ysgrifennwyd y maniffesto syndicalaidd The Miners' Next Step a oedd yn awgrymu sut y dylai perchnogaeth a rheolaeth y pyllau glo newid. |
| Ysgrifennwyd The Miners' Next Step yn 1912 gan bwyllgor diwygio answyddogol, yr 'Unofficial Reform Committee' a oedd yn cynnwys Sosialwyr megis Noah Ablett a W. H. Mainwaring. Yn y daflen roedd yr awduron yn mynnu isafswm cyflog a diwrnod gwaith o saith awr. Roedd y maniffesto yn gwrthod perchnogaeth wladol ac yn galw am i'r gweithwyr gael rheoli'r pyllau glo. | ![]() |
|
Yn ystod Streic Gyffredinol 1926 parlyswyd Prydain am naw diwrnod, 3-12 Mai. Prif achos y streic oedd gwahaniaeth barn rhwng y glowyr a'r Llywodraeth ynglŷn ag argymhellion Comisiwn Samuel ar y diwydiant glo. Aeth nifer o weithwyr eraill ar streic i gefnogi'r glowyr - gyrwyr trenau a bysiau, gweithwyr porthladdoedd a ffatrïoedd, argraffwyr a'r rhan helaethaf o weithlu Prydain. Ar 12 Mai cyhoeddodd Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) yn Llundain fod y Streic Gyffredinol ar ben, a'u bod wedi derbyn gwell telerau oddi wrth lywodraeth Stanley Baldwin. |
Gwrthodwyd y cynigion newydd gan Undeb y Glowyr, a hwy yn unig a barhaodd ar streic. Caewyd hwy allan o'r pyllau glo, ac fe ddioddefwyd caledi mawr yn y gymdeithas, gyda nifer o bobl yn ddibynnol ar ddarpariaeth y ceginau cawl. Cafwyd gwrthdaro rhwng y streicwyr a'r streicdorwyr ac yn ystod wythnosau olaf y streic cafwyd gwrthdaro gyda'r heddlu. Ar 19 Tachwedd 1926 daeth y Streic i ben yng Nghymru pan fu'n rhaid i'r glowyr ddychwelyd at eu gwaith rhag newynu. Erbyn hyn roedd y glowyr yn gorfod derbyn telerau a oedd yn llai ffafriol na'r hyn a gynigwyd y mis Mai blaenorol, a bu lleihad yn nifer y glowyr yn ne Cymru o 218,000 yn 1926 i 194,000 y flwyddyn ddilynol. |
|
|
|
||
| Streic Chwarel y Penrhyn 1896-97 a 1900-03 | ||
| The Miners' Next Step a Streic Gyffredinol 1926 | ||
| Streiciau'r glowyr yn 1972, 1974 a 1984 | ||
|
|
||
| Top y dudalen | Tudalen Flaen Ymgyrchu! | |