| Ar 9 Ionawr
1972 aeth glowyr Prydain ar streic am y tro cyntaf ers 1926, streic a
barhaodd am saith wythnos pan gaewyd 135 o byllau glo yn ne Cymru. Roedd
yn gyflwr o argyfwng yn y wlad, ac er mwyn arbed trydan rhaid oedd i lywodraeth
Edward Heath gwtogi'r wythnos waith i dri diwrnod. O ganlyniad i'r streic
pennwyd cyflog y glowyr ymysg cyflogau uchaf y dosbarth gweithiol ym Mhrydain. |
 |
 |
Erbyn 1974 roedd sefyllfa'r
glowyr wedi gwaethygu eto ac fe gynhaliwyd streic genedlaethol ar 4 Chwefror
a barhaodd am bedair wythnos. Cyhoeddwyd stad o argyfwng ac wythnos dri
diwrnod eto. Gwnaeth Edward Heath achos y glowyr yn bwnc llosg yn Etholiad
Cyffredinol y flwyddyn honno ac fe gollodd y Ceidwadwyr yr etholiad. Yn
eu lle fe ddaeth llywodraeth Lafur i rym, a sicrhawyd cytundeb gyda'r
glowyr yn fuan wedyn. |
| Erbyn 1984 roedd sefyllfa'r
diwydiant glo wedi dirywio eto ac roedd y Bwrdd Glo yn galw am gau 20
o byllau a fyddai yn arwain at golli dros 20,000 o swyddi. Roeddent yn
honni nad oedd y cytundeb a wnaed gyda'r Undebau yn 1974 yn ddilys erbyn
hyn, oherwydd y newid a oedd wedi digwydd yn economi'r wlad. |
 |
 |
Roedd y Llywodraeth Geidwadol
o dan arweiniad Margaret Thatcher yn benderfynol o ddinistrio grym yr Undebau,
ond dadleuai'r Undebau bod eu polisïau yn cael effaith andwyol ar
y cymunedau glofaol. |
| Galwodd Arthur Scargill,
Llywydd Undeb y Glowyr, ar i'r glowyr fynd ar streic, ac ar 12
Mawrth dechreuodd streic a barhaodd am bron i flwyddyn. Chwaraeodd yr wyth ar hugain o byllau yn ne Cymru ran flaenllaw wrth i'r streic fynd yn ei flaen trwy bicedu
a phrotestio. |
 |
|
|
|

|
Sefydlwyd mudiadau a oedd yn gefnogol i'r glowyr,
megis 'Gwragedd yn erbyn Cau'r Pyllau' (WAPC), ac roedd y menywod
yn cymryd rhan amlwg mewn protestiadau ac wrth geisio lliniaru
effaith y tlodi enbyd.
Dychwelodd y glowyr at eu gwaith ar 5 Mawrth 1985 wedi dod â'r streic i ben ddeuddydd ynghynt yn ystod cynhadledd arbennig o Undeb Cenedlaethol y Glowyr. Ond gwaethygu
a wnaeth y sefyllfa yng nglofa'r De a chaewyd 12 o byllau eraill
o fewn blwyddyn i ddiwedd y streic.
|