|
Streiciau Chwarel y Penrhyn 1896-97 a 1900-03 |
|
Ar 22 Tachwedd 1900 aeth bron i dair mil o ddynion Chwarel y Penrhyn, a oedd yn eiddo i'r Arglwydd Penrhyn, ar streic. Cafodd y chwarelwyr eu cloi allan am dair blynedd ac ni fu ardal Bethesda, Gwynedd, yr un fath wedyn. Cyn hyn, yn 1896, cafodd y chwarelwyr eu cloi allan am oddeutu un mis ar ddeg oherwydd anghytundeb rhwng y meistr a'r gweithwyr ynglŷn ag isafswm cyflog. Gorfu i'r chwarelwyr ddychwelyd at eu gwaith heb ddatrys yr anghydfod. Yna ym mis Ebrill 1900 roedd rheolwr chwarel y Penrhyn, E. A. Young, wedi datgan na ddylid casglu tâl undebaeth yn y gweithle. Roedd yr Arglwydd Penrhyn am ddileu dylanwad Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn y chwarel. Oherwydd y gwrthwynebiad i'r penderfyniad fe waharddwyd rhai o'r dynion rhag dychwelyd at eu gwaith, ac yn dilyn hyn aeth 2,800 o'r gweithwyr ar streic. |
![]() |
![]() |
Ar 11 Mehefin 1901 fe ddychwelodd pedwar cant o'r dynion yn ôl at eu gwaith, gan dderbyn sofren yr un ac addewid o 5% o godiad cyflog. Achosodd hyn chwerwder mawr yn yr ardal a datblygodd y drwgdeimlad yn drais erbyn diwedd 1901 pan dorrwyd ffenestri tafarndai a thai y gwŷr a oedd wedi dychwelyd i'r Penrhyn. Gosodwyd arwyddion yn ffenestri rhai o'r tai yn datgan 'Nid oes bradwr yn y tŷ hwn'. Yn fuan wedyn, danfonodd Prif Gwnstabl Sir Gaernarfon filwyr i Fethesda, ac Ynad Heddwch gyda hwy i ddarllen y Ddeddf Derfysg i'r streicwyr. |
|
Dychwelodd y chwarelwyr at eu gwaith ym mis Tachwedd 1903 heb ddatrys problem cydnabod hawliau undebol. Cafwyd colledion o £360,000 mewn cyflogau dros y tair blynedd ac ni ddychwelodd un rhan o dair o'r gweithlu fyth yn ôl i'r Penrhyn. Yn dilyn buddugoliaeth yr Arglwydd Penrhyn, gwelwyd dechrau'r dirywiad yn y diwydiant llechi, diwydiant a oedd mor bwysig i gymdeithas yr ardal hon o Gymru. |
|
|
|
||
| Streiciau Chwarel y Penrhyn 1896-97 a 1900-03 | ||
| The Miners' Next Step a Streic Gyffredinol 1926 | ||
| Streiciau'r glowyr yn 1972, 1974 a 1984 | ||
|
|
||
| Top y dudalen | Tudalen Flaen Ymgyrchu! | |