Ennill y Bleidlais i Ferched yng Nghymru

Ym mis Ionawr 1907 yn Llandudno sefydlwyd cangen gyntaf y mudiad er ennill y bleidlais i ferched yng Nghymru. Bu merched yn cynnal cyfarfodydd yng Nghymru ers yr 1870au ac yn 1874 bu Americanes o'r enw Miss Beedy ar daith drwy'r wlad yn ceisio ennyn cefnogaeth i'r achos. Sefydlwyd canghennau yn y Rhyl a Chaerdydd yn 1908, ac yna yn Sir Fôn a Bangor yn 1912.

Un o sylfaenwyr cangen Caerdydd oedd Millicent Mackenzie, yr unig wraig i sefyll fel ymgeisydd seneddol yng Nghymru yn Etholiad Cyffredinol 1918. Tueddai rhai o'r merched a ymladdai am y bleidlais i gefnogi'r Blaid Geidwadol, oherwydd credent y byddai'r Ceidwadwyr yn fwy tebygol o ildio i'w gofynion.

Cartwn o Samuel Evans, AS (52K)
Swffraget gyda'r heddlu yn 1912 (52K)
Nid oedd croeso i'r merched ymhobman, a bu helynt a chythrwfl ar nifer o achlysuron wrth iddynt geisio lledaenu eu neges. Yn ystod Etholiad Cyffredinol 1910 roedd merched wedi ymgyrchu yn erbyn David Lloyd George ym mwrdeistref Caernarfon gyda'r slogan, "Pleidleisiwch yn erbyn eich anifail anwes, Canghellor y Trysorlys".
Cafwyd protestiadau tebyg eto yn erbyn Lloyd George yn 1912 ym mhafiliwn Caernarfon. Tra roedd yng nghanol ei araith torrwyd ar ei draws gan ferch yn gweiddi, "Votes for Women", ac er i'r heddlu ei thawelu, fe ddigwyddodd yr un peth chwe gwaith wedyn.
Lloyd George, Llanystumdwy, 1912 (35K)

Y digwyddiad enwocaf yng Nghymru yn ymwneud â'r swffragetiaid oedd helynt Llanystumdwy ym mis Medi 1912. Gwahoddwyd Lloyd George yno i agor y neuadd bentref newydd. Cyn gynted iddo ddechrau siarad, tarfwyd arno gan bobl yn gweiddi, "Votes for Women" . Aeth hi'n gythrwfl difrifol - tynnwyd gwallt a rhwygwyd dillad rhai o'r merched gan yr heddlu, a cheisiwyd taflu gwraig dros y bont i mewn i afon Dwyfor.

Llythyr gan Olygydd y Cymro at David Lloyd George (53K)

Deddfau yn ymwneud â merched a'r Bleidlais

Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1884 - Estynnwyd yr hawl i bleidleisio i ddeiliaid tai a lletywyr yn yr etholaethau sirol, ond ni chynhwyswyd merched yn y ddeddfwriaeth hon.

Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918 - Rhoddwyd y bleidlais i wragedd dros ddeg ar hugain mlwydd oed, ar yr amod eu bod yn etholwyr mewn llywodraeth leol, neu yn wragedd i etholwyr mewn llywodraeth leol.

Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1928 (Etholfraint Cyfartal) - Estynnwyd yr etholfraint i gynnwys gwragedd dros un ar hugain oed, o dan yr un amodau ag a roddwyd eisoes i ddynion.

Yn 1969 gostyngwyd yr oed pleidleisio o un ar hugain i ddeunaw i wŷr a gwragedd fel ei gilydd.


Ennill y Bleidlais i Ferched yng Nghymru
Ymgeiswyr Seneddol Benywaidd yng Nghymru
AS ac ASE Benywaidd Cymru 1885-1997
Aelodau Benywaidd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!
Map o'r safle Tudalen Chwilio Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Llinell Amser I fyny Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru