|
Ymgeiswyr Seneddol Benywaidd yng Nghymru |
|
Yn Etholiad Cyffredinol 1918 enwebwyd merched fel ymgeiswyr Seneddol am y tro cyntaf. Roedd 17 o ferched yn sefyll ym Mhrydain, ond dim ond un yng Nghymru, sef Millicent Mackenzie (Llafur) yn sedd Prifysgol Cymru. Yn Etholiad Cyffredinol 1922 roedd tri ymgeisydd seneddol benywaidd, ond dim ond un erbyn 1924. Daeth y llwyddiant cyntaf i'r ymgeiswyr benywaidd yn etholiad 1929 pan enillodd Megan Lloyd George sedd Sir Fôn dros y Rhyddfrydwyr. Daliodd hi'r sedd yno tan 1951, ac yna bu'n AS dros y Blaid Lafur yn Sir Gaerfyrddin o 1957 i 1966. Yn Etholiad Cyffredinol 1945 cododd y nifer o ferched a oedd yn ceisio am seddi ym Mhrydain o 67 i 87, ond dim ond tri ymgeisydd benywaidd oedd yng Nghymru. |
|
|
|
|
![]() |
Roedd Etholiad 1950 yn llwyddiant mawr i ferched Cymru. Llwyddodd tri o'r pedwar ymgeisydd benywaidd i ennill sedd. Daeth Eirene White yn AS Llafur dros Ddwyrain Fflint gyda 48.5% o'r bleidlais; cynyddodd mwyafrif Megan Lloyd George yn Sir Fôn, ac enillodd Dorothy Rees sedd dros y Blaid Lafur yn y Barri gyda mwyafrif o 1,025 o bleidleisiau. Am y tro cyntaf yng Nghymru roedd gan y Comiwnyddion ymgeisydd benywaidd, sef M. Llewellyn, a ddaeth yn drydydd yn Ogwr y flwyddyn honno. Yn Etholiad Cyffredinol 1951 collodd Megan Lloyd George ei sedd i Cledwyn Hughes yn Sir Fôn o 595 pleidlais; collodd Dorothy Rees ei sedd yn y Barri, ac roedd Josephine Richardson yn aflwyddiannus yn Sir Fynwy. Cadwodd Eirene White ei sedd yn Nwyrain Fflint gan ennill 53.8% o'r bleidlais. |
|
Y tro cyntaf i ddwy ferch sefyll am yr un sedd oedd yn ystod isetholiad Caerfyrddin yn 1957 ar farwolaeth Syr Rhys Hopkin Morris. Megan Lloyd George (Llafur) a enillodd, a daeth Jennie Eirian Davies (Plaid Cymru) yn drydydd gyda chyfanswm o 5741 pleidlais. Dim ond pedair merch a safodd yn Etholiad Cyffredinol 1966, gan gynnwys Jenny Gibbs a geisiodd yn aflwyddiannus am sedd Ogwr dros y Blaid Ryddfrydol. Cynyddodd nifer yr Aelodau Seneddol benywaidd yn araf dros y blynyddoedd. Daeth Beata Brookes, Ann Clwyd, Glenys Kinnock ac Eluned Morgan yn Aelodau Ewropeaidd a Julie Morgan, Jackie Lawrence a Betty Williams yn Aelodau Seneddol. Erbyn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 roedd Plaid Cymru a'r Blaid Lafur yn mynd ati'n fwriadol i ddewis nifer cyfartal o ymgeiswyr benywaidd, ac adlewyrchir hyn yn nifer yr aelodau benywaidd a etholwyd i'r Cynulliad. Mae 40% o Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol yn ferched. |
|