|
Canlyniadau Etholiad Cyffredinol 1906 yng Nghymru
| Rhyddfrydwyr |
28 |
| 'Lib-Lab' |
04 |
Llafur (LRC)
|
01 |
| Llafur Annibynnol (ILP) |
01 |
| Ceidwadwyr |
00 |
Buddugoliaeth ysgubol i'r Blaid Ryddfrydol oedd Etholiad
Cyffredinol 1906. Yn y Senedd newydd roedd 377 o Ryddfrydwyr (yn cynnwys
y 'Lib-Labs'), 157 o Geidwadwyr, 83 o Genedlaetholwyr Gwyddelig a 29 o
gynrychiolwyr y Blaid Lafur Annibynnol (ILP). Ymgyrch ofer y Ceidwadwr
Joseph Chamberlain i osod tollau ar nwyddau tramor oedd yn bennaf gyfrifol
am lwyddiant y Blaid Ryddfrydol.
|
 |
|
Yng Nghymru yn 1906 enillodd y Rhyddfrydwyr
28 sedd ond ni lwyddodd y Ceidwadwyr i ddal eu gafael ar yr un sedd, er
iddynt ennill 33.8% o'r bleidlais. Heblaw am y Rhyddfrydwyr roedd pedwar
aelod 'Lib/Lab', un cynrychiolydd y Blaid Lafur Annibynnol ac un aelod dros
y Blaid Lafur. |
| John Williams oedd cynrychiolydd y Blaid Lafur Annibynnol yng Ngŵyr, a Keir Hardie oedd cynrychiolydd y Blaid Lafur (Labour Representation
Committee) yn un o ddwy sedd Merthyr. Keir Hardie (1856-1915) a sefydlodd y Blaid Lafur Annibynnol ac ef oedd yr Aelod Seneddol Sosialaidd cyntaf yng Nghymru. Fe'i hetholwyd i gynrychioli un o ddwy sedd Merthyr Tydfil am y tro cyntaf yn 1900. |
|
|
Sefydlwyd y Blaid Ryddfrydol ym Mehefin 1859
pan ddaeth Chwigiaid, cefnogwyr Peel a Radicaliaid ynghyd yn Llundain
i wrthwynebu'r Ceidwadwyr, gan frwydro dros ryddid cydwybod a hawliau
sifil. |
| Traddodiad radicalaidd oedd i'r Blaid Ryddfrydol
yng Nghymru. Bu'r Blaid Ryddfrydol mewn grym o dan arweiniad Gladstone
bedair gwaith ac ar ddechrau'r ugeinfed ganrif daeth Asquith ac yna Lloyd
George yn brif weinidogion. |
 |
|
Yn 1888 cafodd Stuart Rendel ei ethol yn gadeirydd
y Blaid Seneddol Gymreig, y gydnabyddiaeth gyntaf i Ryddfrydwyr Cymru.
Un o'r Rhyddfrydwyr amlycaf, ac un o'r gwleidyddion pwysicaf yn hanes
Cymru oedd David Lloyd George (1863-1945). |
| Etholwyd ef yn AS dros fwrdeistref Caernarfon
ym mis Ebrill 1890 yn 27 oed. Rhwng 1892 a 1895 chwaraeodd ran amlwg yn
y Senedd ar gwestiwn datgysylltu'r Eglwys. Daeth yn Llywydd y Bwrdd Masnach
yn 1905 ac yna yn Ganghellor o 1908 hyd 1915 pan ddaeth yn Weinidog dros
arfau. Treuliodd rai misoedd fel gweinidog rhyfel yn 1916 cyn dod yn Brif
Weinidog. |
|
|
Cwympodd safle'r Blaid Ryddfrydol yng ngwleidyddiaeth
Prydain dros y blynyddoedd wedi buddugoliaeth fawr 1906 oherwydd ymladd
mewnol a chystadleuaeth oddi wrth y Blaid Lafur a'r Blaid Dorïaidd.
Daeth i fod yn drydedd Blaid, ac erbyn Etholiad Cyffredinol 1950 dim ond
naw Aelod Seneddol oedd gan y Rhyddfrydwyr a phump o'r rheini yng Nghymru. |
| Pan fu farw Clement Davies (1884-1962), AS
Sir Drefaldwyn ers 1929 ac arweinydd y Blaid Ryddfrydol o 1945 tan 1956,
dim ond seddi Ceredigion (Roderic Bowen) a Threfaldwyn (Emlyn Hooson)
oedd yn dal yn eu meddiant yng Nghymru. |
|